Ansicrwydd dros faint sy'n parhau yn Affganistan ond sy'n gymwys i ddod i'r DU

Mae'r Gweinidog Tramor, Dominic Raab, wedi dweud nad yw'r llywodraeth yn "hyderus" am niferoedd y rhai sy'n parhau yn Affganistan ond sy'n gymwys i gael eu hailgartrefu yn y Deyrnas Unedig.
Roedd Mr Raab yn ymateb i gwestiynau un o bwyllgorau San Steffan am y ffordd wnaeth y llywodraeth ddelio gyda'r sefyllfa yn Affganistan.
Mae byddin y DU ac UDA wedi gadael y wlad, sydd bellach yn nwylo'r Taliban.
Fe ofynnodd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, os oedd y gweinidog yn gallu cadarnhau faint o ddinasyddion Prydain a'u teuluoedd oedd ar ôl yn Affganistan, yn ogystal â phobl sy'n gymwys i gael eu hailgartrefu yn y DU.
Dywedodd Mr Raab fod y nifer yn debygol o fod yn y "cannoedd isel", ond nid oedd yn fodlon rhoi ffigwr penodol.
Clywodd y pwyllgor hefyd y byddai Raab ei hun yn teithio i'r rhanbarth ar ôl i sesiwn y pwyllgor ddod i ben.
Roedd y gweinidog hefyd wedi derbyn gwybodaeth oedd yn honni y byddai'n "annhebygol" i'r Taliban gipio'r brifddinas, Kabul, eleni.
Dywed Sky News ei fod wedi gofyn am "adroddiad llawn" o'r digwyddiadau er mwyn dysgu o'r sefyllfa.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Teledu'r Senedd