Newyddion S4C

Cwest yn clywed y gallai marwolaeth Logan Mwangi fod wedi bod yn un ‘treisgar’

Wales Online 01/09/2021
Sarn

Mae cwest i farwolaeth bachgen pump oed wedi clywed y gallai’r farwolaeth fod wedi bod yn un “treisgar neu annaturiol”.

Cafodd corff Logan Mwangi ei ddarganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf.

Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod y bachgen wedi dioddef anafiadau i’w afu, ei ben ac wedi torri pont ei ysgwydd.

Mae John Cole, 39 oed, o Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei gyhuddo o lofruddio'r bachgen pump oed.

Mae mam y plentyn, Angharad Williamson, 30 oed, ynghyd â bachgen 13 oed, a John Cole hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Clywodd Llys Crwner Pontypridd fore Mercher fod Logan Mwangi wedi ei ddarganfod “yn farw” yn Afon Ogwr ger ei gartref, ar ôl i’w rieni adrodd ei fod ar goll.

Dywedodd y dirprwy grwner Rachel Knight fod “rheswm i ddisgwyl y gallai ei farwolaeth fod un yn un treisgar neu annaturiol”.

Mae’r cwest wedi’i ohirio er mwyn i’r ymchwiliad troseddol barhau.

Darllenwch y stori’n llawn ar wefan Wales Online yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.