Y sector gofal yn wynebu ‘argyfwng’ staffio

ITV Cymru 31/08/2021
ITV Cymru
ITV Cymru

Mae’r sector gofal cymdeithasol yn wynebu “argyfwng” oherwydd diffyg staffio, yn ôl penaethiaid cwmnïau yn y maes.

Y pandemig coronaferiws yw un o’r ffactorau sydd yn lleihau maint y gweithlu, wrth i bwysau’r cyfnod achosi i ofalwyr adael y diwydiant.

Dywedodd rheolwr cwmni gofal yng Ngwynedd ei fod yn rhannu hysbysebion am swyddi gofal yn ddyddiol, ond nid yw’n derbyn unrhyw geisiadau yn ôl.

Dros y mis diwethaf, cafodd 760 o hysbysebion am swyddi gofal eu rhannu ar safleoedd swyddi yng Nghymru.

Dawn hyn gyda'r disgwyl y bydd nifer y bobl hŷn sydd yn byw gyda dementia difrifol ddyblu i 53,700 o fewn yr 20 mlynedd nesaf.

Image
ITV Cymru
Keri Llewellyn o gwmni All Care. [Llun: ITV Cymru]

Dywedodd pennaeth grŵp gofal yn y cartref yn y Barri ei bod hi hefyd yn cael trafferth i recriwtio gweithwyr newydd, a hynny tra bod ganddi hi’r nifer isaf o staff yn gweithio iddi ers 15 mlynedd.

“Mae staffio yn arswydus. Nid oes gennym ni ddigon o bobl yn dod mewn i’r diwydiant gofal, ac mae pobl yn gadael mewn niferoedd uchel,” meddai Keri Llewellyn, rheolwr All Care.

Golyga hyn fod darparwyr gofal yn cael eu gorfodi i wrthod gwaith gan nad oes digon o staff ganddyn nhw.

Beth sydd wedi digwydd?

Mae yna ddau brif ffactor sydd yn achosi’r argyfwng staffio.

Mae’r system ofal cymdeithasol yn ddibynnol iawn ar weithwyr o’r Undeb Ewropeaidd, ac fe wnaeth nifer o ddinasyddion yr UE ddychwelyd i’r UE ar ddechrau’r pandemig.

Yn ôl undeb y GMB, ni wnaeth nifer ohonynt geisio am statws sefydlog pan wnaeth y DU adael yr UE.

Mae gweithwyr gofal profiadol hefyd yn gadael y diwydiant oherwydd pwysau’r pandemig.

Mae gorflinder a straen o ganlyniad i amgylchiadau gwaith o dan Covid wedi gorfodi sawl un i chwilio am waith arall am yr un cyflog – neu’n uwch –sydd ddim yn rhoi’r un pwysau ar eu bywydau personol a chymdeithasol.

Image
ITV Cymru
Mae gweithwyr gofal profiadol yn gadael y diwydiant oherwydd pwysau’r pandemig. [Llun: ITV Cymru]

Ymysg y rheiny sydd yn dal i weithio yn y diwydiant, mae yna lefelau uchel o salwch, staff yn cael cais i hunan-ynysu gan wasanaeth Profi ac Olrhain, ac eraill yn cymryd gwyliau.

Ond fe wnaeth Ms Llewellyn gyfaddef ei bod hi wedi gofyn i’w staff roi’r gorau i’w gwyliau gan fod dim gweithwyr eraill i gymryd eu gwaith shifftiau tra’u bod i ffwrdd.

“Mae llawer ohonom ni’n cael amser caled,” meddai Wendy Harvey, un o weithwyr gofal cwmni All Care.

“Mae hi wedi bod yn anodd, emosiynol, blinedig iawn – mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn andros o anodd i bawb, gan gynnwys y bobl rydyn ni’n edrych ar eu hôl.”

Dywedodd Ms Llewellyn fod morâl yn “erchyll, andros o erchyll,” a bod hyn “wedi mynd o’r brig yr holl ffordd i’r gwaelod.

“Does dim llawer o obaith gennym ni ar y gorwel,” meddai hi.

Esboniodd fod hyn yn rhannol oherwydd bod bywyd wedi newid i bawb arall wrth i Gymru symud at Lefel Rybudd Sero, ond i’r rheiny sydd yn gweithio yn y sector gofal mae bywyd yn dal i fod yn agosach at Lefel Rybudd Tri neu Bedwar.

Mae gweithwyr gofal yn dal i gael eu profi o leiaf ddwywaith yr wythnos, weithiau tair gwaith, ac mewn rhai achosion pob diwrnod wrth iddynt  gyrraedd y gwaith.

Mae effeithiau’r argyfwng staffio yn ymestyn tu hwnt i’r sector gofal.

Os nad oes gan gartrefi gofal a darparwyr sydd yn cynnig gofal mewn cartrefi gofal ddigon o staff, does dim modd iddyn nhw gymryd mwy o gleientiaid am resymau diogelwch.

Golyga hyn fod angen i’r rheiny sydd angen gofal un ai aros nes ei fod ar gael, neu aros mewn ysbyty a ‘llenwi gwely’ nes bod lle ar gael iddyn nhw mewn cartref gofal.

Fe wnaeth rheolwr Meddyg Care, Kevin Edwards, sydd â chartrefi ym Mhorthmadog a Chriccieth, rybuddio y gallai hwn fod yn broblem yn ystod y gaeaf sydd i ddod yn enwedig.

“Rwy’n credu fod hyn wedi bod yn adeiladu dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Beth rwy’n ei glywed o fewn y sector yw y bydd darparwyr, fel ni, yn edrych i leihau’r nifer o welyau sydd ar gael gan nad oes gennym ni’r staff perthnasol ar eu cyfer.

“O ganlyniad i hyn, fe fydd nifer o bobl yn gorfod aros mewn ysbytai ac rwy’n credu y bydd llawer o bobl yn llenwi gwelyau mewn ysbytai y gaeaf hwn.”

Image
ITV Cymru
Mae argyfwng staffio yn effeithio ar nifer y bobl y gall cartrefi gofal eu derbyn ar y tro o achos rhesym,au diogelwch.

Mae darparwyr gofal ac undebau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gyrfa yn y sector gofal yn ddeniadol trwy wella cyflogau, amodau a thelerau.

Fe ddywedon nhw y gallai Llywodraeth Cymru gynyddu’r nifer o arian maen nhw’n ei roi i awdurdodau lleol ar gyfer eu cyllideb gofal cymdeithasol. Byddai hyn yn effeithio ar sectorau gofal cyhoeddus a phreifat.

Fe ddywedon nhw hefyd fod yna 120,000 o swyddi gwag yn y sector gofal cyn y pandemig, a dim ond gwaethygu problem oedd yn bodoli’n barod wnaeth Covid a Brexit.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio gydag undebau, cynrychiolwyr gofal ac awdurdodau lleol i ystyried sut y gallen nhw wella amgylchiadau gweithio yn y maes hwn.

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi darparu £50m i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gefnogi gweithlu a gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, a’u bod nhw wedi ymrwymo i sicrhau fod gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn Cyflog Byw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.