‘Moment hanesyddol’ i’r Taliban wedi ymadawiad byddin yr UDA

‘Moment hanesyddol’ i’r Taliban wedi ymadawiad byddin yr UDA
Mae milwyr olaf yr Unol Daleithiau yn Afghanistan wedi hedfan o faes awyr Kabul, gan ddod ag ymgyrch filwrol yn y wlad i ben ar ôl 20 mlynedd.
Yn ôl adroddiadau, mae’r Taliban wedi bod yn dathlu eu hymadawiad chwim.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y grŵp ddydd Mawrth bod Afghanistan bellach yn genedl “rhydd a sofran”, gan ddisgrifio ymadawiad byddin yr UDA fel “moment hanesyddol”.
Daw hyn â brwydr 20 mlynedd i ben i’r UDA yn Afghanistan.
Bu farw mwy na 2,400 o Americanwyr yn ogystal â degau o filoedd o bobl Afghanistan dros y cyfnod.
Gadawodd yr awyren olaf am 15:29 brynhawn dydd Llun (amser Afghanistan), meddai’r Cadfridog McKenzie, pennaeth Ardal Reoli Ganolog y UDA.
Yn ystod y 17 diwrnod diwethaf mae ymgyrch filwrol y UDA wedi cludo dros 120,000 o ddinasyddion y UDA, dinasyddion eu cynghreiriaid, a chynghreiriaid Afghanistan yn yr UDA.
Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi disgrifio ymadawiad milwyr y UDA fel gweithred o "ddewrder, proffesiynoldeb a datrysiad".
Darllenwch y diweddaraf yma.