Newyddion S4C

Dynes yn gwadu llofruddio dyn yn Sir y Fflint

North Wales Live 31/08/2021
Dean Michael Bennett

Mae dynes wedi gwadu llofruddio dyn yn Sir y Fflint yn gynharach eleni

Ymddangosodd Emma Berry, 46 oed, drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Yr Wyddgrug o garchar Styal ddydd Mawrth, yn ôl North Wales Live.

Mae Berry yn gwadu cyhuddiad o lofruddio Dean Michael Bennett.

Bu farw'r dyn 31 oed yn yr ysbyty ar 22 Mai yn dilyn digwyddiad ar Ffordd yr Hen Ddoc, Cei Connah.

Daeth cwest cychwynnol i’r casgliad ei fod wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei frest.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.