Teyrngedau i ddyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhreforys
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhreforys, Abertawe ddydd Llun.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A48 rhwng Ffordd Long View a Mount Crescent yn y dref ychydig cyn 14:30.
Bu farw John Robertson, 71 oed, oedd yn gyrru Ford Fiesta du, yn y fan a'r lle.
Mae ffrind a phartner Mr Robertson, Maggie Cornelius wedi rhoi teyrnged iddo.
Mewn datganiad, dywedodd: "Bydd colled fawr ar ôl John gan ei ffrind a'i bartner Maggie, ei frawd David, ei chwaer-yng-nghyfraith Jill, nai John, Alex a'i wraig Amber a'i neiaint Miles a James sy'n byw yn yr UDA. Yn ogystal â theulu Maggie yma yng Nghymru."
Mae ei bartner yn dweud iddo ymddeol yn ddiweddar fel nyrs yn yr uned gofal dwys yn ysbyty Treforys.
Ychwanegodd Ms Cornelius: "Roedd gan John lawer o ddiddordebau ac yn ystod y blynyddoedd diweddar ar ôl ymddeol fel nyrs yn uned gofal dwys yn ysbyty Treforys, roedd yn gwirfoddoli gydag RSPB, ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdulais a GGATT yn Abertawe.
"Treuliodd flynyddoedd lawer yn y Sgowtiaid yn teithio, cerdded a dringo ledled y byd - gan gynnwys Mera Peak a Base Camp mynydd Everest
"Achosodd ei iechyd iddo aros yn yr ysbyty eleni, ond buan y llwyddodd i ailgychwyn ei weithgareddau.
"Mae sioc ei farwolaeth sydyn wedi gadael pob un ohonom mewn dryswch a thristwch.”
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a welodd y car cyn y digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2100305521.