'Dim digon o gyfleoedd ar gael' i siarad y Gymraeg
'Dim digon o gyfleoedd ar gael' i siarad y Gymraeg
Faint ohonoch chi sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg tu allan i'r stafell ddosbarth?
Dwy ohonoch chi?
Faint ohonoch chi sy'n teimlo bod 'na ddigon o gyfle i wneud hynny?
"Na."
Ateb pendant iawn.
Mae'r Gymraeg yn fyw yng nghoridorau Ysgol Cwm Rhondda.
Ond mae'n ymddangos bod cael cyfle i ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i'r stafell ddosbarth yn fwy o her.
"Mae digon o gyfleoedd yn yr ysgol.
"Ond tu fas i'r ysgol, does dim llawer o gwbl."
"Os ni'n meddwl am ddinasoedd enfawr fel Caerdydd neu Abertawe efallai bod gyda nhw fwy o gyfleoedd."
"Mae pob clwb o gwmpas fan hyn wastad yn Saesneg.
"Byddai'n neis cael yr un profiad drwy gyfrwng y Gymraeg."
"Mae 'na brinder pethau Cymraeg yn y cyfryngau ac yn gymdeithasol hefyd."
"Mae siarad Cymraeg yn rhywbeth i fod yn browd ohono.
"Ni angen dangos hynny mwy yn y Rhondda."
Mae Pwyllgor y Gymraeg yn cytuno a'r disgyblion yma bod dim digon o gyfleoedd ar gael i ddefnyddio'r iaith.
Maen nhw'n galw am fwy o gyfleoedd mewn awyrgylch anffurfiol yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae 'na lai o bobl yn siarad Cymraeg.
Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal hon yn 2024.
Un awgrym yn adroddiad y pwyllgor yw y dylid creu fframwaith gwaddol cenedlaethol i sicrhau bod gwyliau mawr yn gadael effaith barhaol ar y cymunedau sy'n eu cynnal.
"Mae fe'n gadarnhaol.
"Bydd pobl yn gweld budd gwyliau ar gyfer hybu'r Gymraeg.
"Mae 'na gydnabyddiaeth bod rol hollbwysig i'r Eisteddfod o ran newid agwedd at y Gymraeg a bod cydweithio er mwyn diogelu gwaddol hirdymor yn yr ardal yna."
Mae'r pwyllgor hefyd yn awgrymu y dylai teuluoedd ar incwm isel gael mynediad i wyliau mawr am gost fechan neu'n rhad ac am ddim.
Maen nhw hefyd yn cyfeirio at y rheolau o ran rhannu data.
Byddai ail-edrych ar y rheolau yn gallu gwneud hi'n haws i ddatblygu technoleg a deallusrwydd artiffisial trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae 'na awgrym y dylai mentrau iaith elwa o arian ychwanegol hefyd.
"Ydyn, ni ishe miliwn o siaradwyr ond ni isie cynyddu defnydd dyddiol o'r iaith Gymraeg.
"Y cyflyma'n byd gallwn ni symud 'mlaen gyda'r broses 'ma, y gorau.
"Oes, mae isie strategaeth ac isie'r bwrdd edrych arno fe.
"Ond ni ddim isie bod yma mewn dwy flynedd yn parhau i drafod be sy'n digwydd nesa."
I Gadeirydd y Pwyllgor, mae'n rhaid sicrhau bod presenoldeb y Gymraeg yn amlwg ar blatfformau digidol os am sicrhau gwell defnydd ohoni.
"Mae 'na rol gan y Llywodraeth i'w chwarae.
"Ond mae 'na rol gan drigolion Cymru.
"Dylai'r cwmniau mawrion ddangos parch tuag at ein hieithoedd ni.
"Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a dylai hi gael y platfform yna."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050...gan gymryd camau mewn
nifer o feysydd i gyrraedd y nod gan gynnwys gwella presenoldeb y Gymraeg ar lwyfannau digidol a thrwy ddeallusrwydd artiffisial.
Mae'r argymhellion yn adroddiad Pwyllgor y Gymraeg yn glir.
Adeiladu a gweithredu arnyn nhw fydd yr her nawr i ddiogelu'r iaith i bobl y Rhondda a thu hwnt.