Gordon Brown: 'Sefyllfa arweinyddiaeth Starmer yn ddifrifol ond mae'n ddyn gonest'
Mae'r cyn Brif Weinidog Gordon Brown yn dweud fod y sefyllfa sy'n wynebu Syr Keir Starmer yn "ddifrifol" ac mae'n awgrymu fod arweinydd y Blaid Lafur wedi bod yn "rhy araf i wneud y pethau cywir" yn sgil sgandal Peter Mandelson.
Er hynny dywedodd Mr Brown ei fod yn ystyried Syr Keir fel "dyn gonest" a oedd wedi cael ei "fradychu" gan yr Arglwydd Mandelson.
Daw ei sylwadau wrth i'r heddlu fynd drwy focsys o dystiolaeth a gafodd eu cymryd o gyfeiriadau'r Arglwydd Mandelson yn Llundain a Wiltshire brynhawn Gwener, a hynny fel rhan o'u hymchwiliad i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Mae honiadau ei fod wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein, tra roedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.
Daeth hynny i'r amlwg ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddydd Gwener ddiwethaf.
Dywedodd Mr Brown ei fod yn difaru rhoi arglwyddiaeth i'r Arglwydd Mandelson a'i wahodd yn ôl i'r llywodraeth yn 2008, gan ychwanegu ei fod yn teimlo "wedi'i synnu, yn drist, yn flin, wedi'i fradychu, wedi'i siomi" pan welodd y negeseuon a gafodd eu rhyddhau gan Adran Gyfiawnder America.
Mae Syr Keir yn wynebu pwysau cynyddol oherwydd ei benderfyniad i benodi'r Arglwydd Mandelson yn llysgennad i'r Unol Daleithiau, er gwaethaf gwybod bod ei berthynas gydag Epstein wedi parhau ar ôl iddo ei gael yn euog yn 2008 o gyhuddiad yn ymwneud â phuteindra.
Wrth gael ei holi beth oedd ei neges i’r Blaid Lafur am ddyfodol Syr Keir, dywedodd Mr Brown wrth raglen Today ar Radio 4: "Mae hyn yn amlwg yn ddifrifol.
"Hynny yw, mae 'na ddyfalu bob amser. Digwyddodd i mi, digwyddodd i Tony Blair. Mae’n digwydd i bawb ynglŷn â sut y dylid mesur eu dyfodol.
"Ond mae hyn yn ddifrifol, ac mae’r dasg yn glir iawn. Y dasg yw bod yn rhaid i ni lanhau’r system, glanhau’r system yn llwyr, rhoi diwedd ar y llygredd a’r ymddygiad anfoesol. Ac os na wnawn ni hynny, byddwn ni’n talu pris trwm."
'Angen glanhau'r system'
Pan ofynnwyd iddo os mai Syr Keir yw'r person cywir i symud y wlad ymlaen, dywedodd: "Gallaf edrych yn ei lygaid a gallaf weld ei fod yn ddyn o onestrwydd. Mae eisiau gwneud y pethau cywir.
"Efallai ei fod wedi bod yn rhy araf i wneud y pethau cywir, ond rhaid iddo wneud y pethau cywir nawr, a gadewch i ni farnu beth mae'n ei wneud, ar yr hyn sy'n digwydd yn yr ychydig fisoedd nesaf pan fydd yn ceisio, ac rwy'n credu y bydd yn ceisio, glanhau'r system."
Yn ôl Mr Brown, maen ange cynnal gwrandawiadau tebyg i'r rhai yn yr Unol Daleithiau i gadarnhau bod gweinidogion llywodraeth newydd yn addas.
Dywedodd nad oedd y celwyddau honedig gan yr Arglwydd Mandelson yn ystod ei broses benodi yn llysgennad yr Unol Daleithiau yn "esboniad digonol am yr hyn a ddigwyddodd".
"Mae 'na fethiant systemig i wneud gwiriadau priodol, i fynd trwy'r gweithdrefnau cywir ac i gael, yn fy marn i, yr hyn a ddylai fod yn wrandawiadau cyhoeddus ar gyfer unrhyw un a fydd mewn swydd uwch yn cynrychioli llywodraeth Prydain," meddai.
Mae'r pwysau o fewn y Blaid Lafur yn parhau i gynyddu ar Syr Keir, gyda'r AS dros Riverside yn Lerpwl, Kim Johnson, yn dweud bod ei safle yn "anadferadwy".
Dywedodd wrth Times Radio: "Mae'n ddrwg gen i, rhaid i mi ddweud fy mod i'n credu bod ei safle ar hyn o bryd yn anadferadwy. Mae'n drist gen i ddweud."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i lansio ymchwiliad i'r Arglwydd Mandelson.
Mewn llythyr at gorff gwarchod y Ddinas, dywedodd dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Daisy Cooper: "Mae’n hanfodol bod Mandelson yn cael ei ymchwilio i weld a wnaeth ef, neu’r rhai y gollyngodd wybodaeth iddynt, elwa o fynediad i’r deunydd cyfrinachol a farchnad-sensitif hwn.
"Rhaid iddo ef ac eraill wynebu erlyniad troseddol os canfyddir eu bod wedi camddefnyddio cyfreithiau masnachu er budd ariannol."