'Mae'n crisis': Cymru 'ddim yn barod' i ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio

Newyddion S4C

'Mae'n crisis': Cymru 'ddim yn barod' i ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio

Dydi Cymru ddim yn barod i ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio yn ôl corff sy’n cynrychioli dros 400 o gartrefi gofal yng Nghymru. 

Yn ôl Fforwm Gofal Cymru mae angen gwella a chyflymu’r paratoadau i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru. 

Mae gwaith ymchwil yn dangos  y bydd bron i miliwn o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru erbyn 2030. 

Ategu’r neges mae Comisynydd Pobl Hŷn Cymru sy’n dweud y bydd yn rhaid i lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu’r pwnc. 

Gyda datblygiadau ym maes iechyd yn golygu bod mwy o bobl yn byw yn hŷn, rhybuddio mae nifer yn y sector nad oes digon o gyllid na chapasiti yn y system i ddelio â’r heriau a ddaw. 

Y gred yw y bydd angen mwy o ofal mewn cartrefi preswyl a hefyd yn eu cymunedau ond gyda phryder recriwtio mae Fforwm Gofal Cymru yn galw am wella’r gwaith cynllunio. 

“’Da ni mewn crisis yn barod ond mae o am fynd yn waeth," meddai Kim Ombler (uchod) sydd â chartref gofal gyda 52 o welyau ym Mrynsiencyn, Ynys Môn. 

“Mae rhaid i awdurdodau iechyd a chynghorau lleol edrych ar y ddemograffeg a gwneud yn siwr fod bob dim yn barod.

“Dydy nhw ddim- ‘dy nhw ddim yn siarad efo’u gilydd."

Image
Elwen Green
Elwen Green

'Pryderus'

Yn ôl Kim Ombler sydd hefyd yn lefarydd i Fforwm Gofal Cymru dydi Cymru ddim yn barod i ddygymod a’r sgil effeithiau o weld poblogaeth yn heneiddio. 

Yn y ganolfan hamdden ym Miwmares mae sesiynau yn cael eu cynnal i bobl hŷn gadw’n heini.

Mae unigolion sydd angen cymorth gyda chadw cydbwysedd a hyder yn gallu cael eu cyfeirio gan y gwasanaeth iechyd. 

Yno hefyd mae cyfle i gymdeithasu mewn gweithdai gwnïo ac mae’r syniad o fynd yn hŷn yn bwnc llosg ar drothwy’r etholiad.

“Dwi yn poeni braidd am ofal yn y gymuned wrth i mi fynd yn hŷn," medd Elwen Green sy’n 65.

“Da ni di bod efo mam a dad a mam a dad yng nghyfraith yn mynd yn hen yn y gymuned, da ni di gweld trafferthion yn cael gofalwyr yn dod yna i edrych ar eu hôl nhw.

“Mae hynny’n bryder i mi”.

Poeni am ddarpariaeth gwasanaethau mae Alwen Mair Ingledew sy’n 70 oed.  

“Dydi’r gwasanaethau eisoes heb fod yna imi, ges i clun newydd ac oedd o’n edrych fel swni gorfod aros am dair blynedd ar y gwasanaeth iechyd," meddai.

“Mi es i’n breifat felly yn anffodus a minnau wedi gweithio fy mywyd i gyd yn yr NHS."

Image
Mair Ingledew
Mair Ingledew

'Heb ymateb'

Yn gred yw bod 908,728 o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru gyda disgwyl i hynny gynyddu. 

O rheini mae 331,023 dros 75 oed, 179,635 dros 80 oed a 86,057 dros 85 oed. 

Cyngor Conwy a Phowys sydd a’r ganran uchaf o bobl hyn yn byw yno. 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies, yn dweud fod yn rhaid paratoi at hyn.

“Da ni’n gwybod hyn es sbel felly be dwi’n edrych ar efo llywodraeth newydd Cymru yw i fynd ati ar yr heriau hynny ac i sicrhau fod y polisiau ni’n cael eu gweithredu yng Nghymru ac yn ein cymunedau a bod ein pobl hyn yn gweld hynny," meddai.

“Mae’r boblogaeth yn heneiddio ond dydi’n gwasanaethau ni heb ymateb yn y ffordd ‘da ni am weld yma."

Ychwanegodd y byddai’n rhoi pwysau ar y llywodraeth nesa i wireddu hynny. 

Image
Rhian Bowen Davies
Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Ymateb y pleidiau

Beth felly mae’r pleidiau yn ei ddweud? 

Wrth ymateb i gwestiynau, mi gafodd ymgeiswyr y prif bleidiau yn etholaeth Bangor Conwy Môn gyfle i ymateb ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod “am fuddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol ac am helpu achub y gwasanaeth iechyd”.

Yn ôl y Blaid Lafur “y disgwyl yw y bydd hwn yn cynyddu fel her a bod angen paratoi felly mae angen twf yn yr economi a’r blaid lafur ar ddwy ochr yr M4 fod y gwasanaeth iechyd yn cael ei barchu". 

Yn ôl Reform UK mae angen “mwy o ganolfannau llawfeddygol a canolfannau diagnostig (surgical hub a diagnostic centres) er mwyn arbed y system rhag y bottle neck rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd (primary a secondary care)”. 

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig “mae mwy a mwy o adnoddau wedi’w rhoi mewn i’r system iechyd ers degawdau ond does dim gwelliant felly mae’n rhaid edrych ar y problemau systemig o fewn y system gofal a iechyd". 

Yn ôl y Blaid Werdd mae angen buddsoddi mewn “gofal yn y gymuned a gofal sylfaenol (community care and primary care). Un o’r problemau ydi fod GP’s, deintyddion a nyrsys, dy' nhw ddim yn aros yn ein cymunedau a’r NHS”. 

Yn ôl Plaid Cymru mae angen edrych ar “y cyllid sy’n dod o San Steffan ac ydi hynny yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth yng Nghymru ac yn enwedig poblogaeth sy’n heneiddio, ac i awdurdodau lleol mae angen edrych ar y fformwiwla cyllido”. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.