'Profiad anhygoel' ysgrifennu'r gyfres gomedi Gymraeg gyntaf ar TikTok

Ganol Nunlla / Teleri Hughes

Mae awdures wedi disgrifio'r profiad o ysgrifennu'r gyfres gomedi Gymraeg gyntaf erioed ar TikTok fel un "anhygoel."

Fe gafodd pennod gyntaf y gyfres Ganol Nunlla ei chyhoeddi ar TikTok S4C ddydd Llun, y gyfres gyntaf o'i bath yn yr heniaith ar y platfform poblogaidd.

Teleri Hughes sydd wedi ei hysgrifennu a hi hefyd sydd yn serennu yn gyfres, sy'n yn dilyn cymeriadau "doniol a cwyrci" ardal Llanrwst.

Dyma'r ail gyfres mae S4C wedi ei chyhoeddi sydd yn ecscliwsif i TikTok, yn dilyn y ddrama Yr Alwad gan Hansh.

Mae'r gyfres wedi cael ei gwylio dros 30,000 o weithiau hyd yma ers cael ei chyhoeddi.

Dywed Teleri Hughes fod cyhoeddi cyfresi fel hyn ar TikTok fel "llwyfan lansio" i ddramâu a chomedïau gwahanol.

“Ma' di bod yn dda sgwennu yn digidol, ma' di bod yn brofiad anhygoel," meddai wrth Newyddion S4C.

“Fel cymdeithas ma' attention span ni mor fyr, ac fi'n credu'r her gyda TikTok yw bod yr adborth yn immediate tra bod e ddim gyda teledu.

“Ond ma' TikTok dwi’n teimlo yn testing ground da i betha’ fel’ma, i weld sut ma petha yn landio.

“Ma’n launching ground ffantasig i betha' o lefel llawr gwlad ac yn andros o ffordd da i brofi rhywbath dwi’n meddwl, sydd yn bositif.

“Ma’ na sgop i gymaint o betha' gwahanol ar TikTok a dwi wedi joio gweld sut ma' Ganol Nunlla yn edrych ar y platfform a dwi’n meddwl bod y comedi yn gweithio’n dda achos bod o mor snappy."

'Haeddu cael llwyfan'

Mae Ganol Nunlla yn gyfres am bobl yn eu harddegau yn Llanrwst sydd eisiau gadael y dref a dianc i Lerpwl.

Profiadau Teleri ei hun sydd yn cael eu hadlewyrchu yn y gyfres, ac mae hi wedi derbyn nawdd gan S4C er mwyn ysgrifennu a datblygu'r syniad.

Mae hi wedi gweithio ar y sgript ers sawl blwyddyn, ac eisiau cynnig rhywbeth oedd "byth wedi bod ar deledu" o'r blaen.

“O’dd o’n sgript o’n i wedi bod yn gweithio ar am dipyn i fod yn onest, o’n i ‘di bod yn gweithio ar y sgerbyd am tua dwy flynadd," meddai.

“O’n i jyst yn teimlo fel o’n i byth ‘di gweld rwbath fatha’r lleoliad yma ar teledu neu ar unnryw fath o lens rili, a definitley’r cymeriadau yma.

“Felly nesi i feddwl sgwennu amdan profiada’ fy hun, a bod e wedi setio yn Llanrwst."

Ychwanegodd: “Cymeriadau authentic yma sy’n haeddu cael llwyfan ac o’dd o’n rwbath o’n i’n rili passionate amdan.

“O’dd o’n diddorol, i gychwyn nes i stryglo efo faint o hir ydy’r sketches ar TikTok rili. Neshi jyst gweld o rili fel sgwennu scenes gwahanol a dyna sut nesi fynd ati rili.

“O’dd o definitley yn learning curve, ond yn hwyl gallu gweld o fel ymchwil mewn i’r cymeriadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.