Apêl heddlu yn dilyn gwrthdrawiad yn ras y SheUltra ym Mhen Llŷn

b4413 mynytho.jpg

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad yn ras y SheUltra ym Mhen Llŷn ddydd Sadwrn. 

Roedd y digwyddiad rhwng fan wen a cherddwraig oedd yn gwylio'r ras ar y B4413 ym Mynytho am tua 15:00 yn ôl yr heddlu.

Fe stopiodd y gyrrwr i gychwyn ond yna fe wnaethon nhw adael y lleoliad. 

Dywedodd y Cwnstabl Kelly Mitchell: “’Dan ni’n apelio ar y gyrrwr i gysylltu efo ni, yn ogystal ag unrhyw un oedd yn dyst i’r digwyddiad.
 
"Ar ben hyn, ‘dan ni’n apelio ar unrhyw un sydd â fideo o’r digwyddiad neu’r cerbyd i gysylltu efo ni.
 
"Dylai unrhyw un efo gwybodaeth all helpu ein hymchwiliad gysylltu â’r heddlu drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 26000288384."
 
Roedd tua 2,500 o fenywod wedi cymryd rhan yn y ras 50 cilomedr sy'n cychwyn ac yn gorffen ym Mhwllheli dros y penwythnos.
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.