Cyhoeddi enw bachgen 17 oed a fu farw yn dilyn digwyddiad ger Caerffili

ABERTRIDWR

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw bachgen 17 oed a fu farw yn dilyn digwyddiad mewn eiddo ger Caerffili.

Bu farw Tristan Shae Kerr yn dilyn digwyddiad mewn eiddo ar Stryd Francis Isaf yn Abertridwr tua 17.45 ddydd Iau.

Fe wnaeth Heddlu Gwent lansio ymchwiliad llofruddiaeth nos Iau, ac ers hynny mae swyddogion wedi arestio pump o bobl mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Prif Arolygydd Ditectif Jitka Tomkova-Griffiths: "Mae teulu Tristan yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, ac mae ein meddyliau'n parhau gyda nhw a'i ffrindiau yn ystod yr amser anodd hwn.

"Rydym wedi gwneud pump o arestiadau mewn cysylltiad â'r ymchwiliad, ac mae'r pum person yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd."

Ychwanegodd bod swyddogion yn parhau yn yr ardal i gynnal eu hymholiadau.

"Er ein bod yn deall bod adroddiadau fel y rhain yn peri pryder, mae'n bwysig nad yw pobl yn dyfalu am bwy yw'r rhai sy'n gysylltiedig gan y gallai hyn achosi problemau i'n hymchwiliad," meddai.

"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, fodd bynnag, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600038325.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.