Chwe Gwlad: Cymru yn colli’n drwm oddi cartref yn erbyn Lloegr

Chwe Gwlad: Cymru yn colli’n drwm oddi cartref yn erbyn Lloegr

Roedd yn brynhawn i’w anghofio i dîm rygbi Cymru ar ôl colli 48-7 yn erbyn Lloegr yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2026.

Ar ôl perfformiad hunllefus yn ystod yr hanner cyntaf, daeth yn amlwg nad oedd y Cymry yn gallu ymdopi â’r achlysur yng nghrochan swnllyd Twickenham.

Ar ôl i Loegr fynd ar y blaen gyda chic gosb gan George Ford wedi dwy funud, fe gafodd Cymru eu cosbi unwaith eto yn yr wythfed munud, wrth i Henry Arundell dirio yn y gornel. Roedd y trosiad gan Ford yn gywir.

Ychydig yn ddiweddarach, roedd prop Lloegr, Ellis Genge, yn ffodus i beidio derbyn cerdyn ar ôl iddo ymddangos ei fod wedi taro Alex Mann gyda’i ben.

Parhau gwnaeth ddiffyg disgyblaeth Cymru, gyda’r prop Nicky Smith ac yna’r capten Dewi Lake ill dau yn derbyn cerdyn melyn o fewn munud i'w gilydd – gan adael y Cymry gyda 13 o chwaraewyr.

Nid oed angen ail wahoddiad ar Loegr i gymryd mantais, gyda chic letraws Ford yn canfod Arundell am ei ail gais. 15-0 i’r tîm cartref wedi i Ford fethu gyda’r trosiad.

Image
Dewi Lake
Roedd hi'n brynhawn rhwystredig i Dewi Lake a'i dîm (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Gyda dau ddyn o fantais, fe gafodd Lloegr drydydd cais wedi 23 munud, gyda’r wythwr Ben Earl yn tirio. Ychwanegodd Ford y trosiad i ymestyn y fantais i 22-0.

Roedd yr hanner cyntaf yn mynd o ddrwg i waeth o safbwynt Cymreig, gyda’r cyfuniad o ddisgyblaeth wael a leiniau gwallus yn cynnig pwyntiau ar blât i’r Saeson.

Ac ar ôl cam-drafod yn hanner ei hun gan Ben Thomas yn ystod cyfnod prin o feddiant, fe gafodd Arundell y cyfle i lamu dros y gwyngalch am ei drydydd cais, a chais pwynt bonws y tîm cartref, wedi 35 munud yn unig.

Yn wir, roedd y bwlch o 29-0 ar hanner amser, yn gyfartal â'r hanner gwaethaf erioed yn hanes hir tîm rygbi Cymru mewn gemau prawf.

Ail hanner

Parhau i fyrlymu gwnaeth y don wen ar ddechrau’r ail gyfnod, gyda Tom Roebuck yn tirio pumed cais Lloegr wedi 44 munud ar ôl symudiad crefftus gan yr olwyr. 36-0 ar ôl trosiad arall gan faswr Lloegr.

Fe wnaeth Cymru ymateb gyda chyfnod o feddiant a chario cryf, a wnaeth arwain at gerdyn melyn i’r eilydd Maro Itoje, wrth i Loegr ddod dan bwysau am y tro cyntaf. 

Image
Josh
Josh Adams sgoriodd unig gais Cymru (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Ac o’r diwedd, daeth pwyntiau cyntaf y Cymry wedi i gic gan Dan Edwards ganfod Josh Adams, a redodd drosodd am gais cyntaf ei dîm. Llwyddodd Edwards gyda’r trosiad i gau’r bwlch i 36-7.

Ond roedd egni eilyddion Lloegr yn anodd iawn i’w leddfu, a dan bwysau cynyddol, fe gafodd Ben Thomas gerdyn melyn wedi 65 munud ar ôl rhwygo’r bêl yn anghyfreithlon, yn llygaid y swyddogion. 

Dau funud yn ddiweddarach, cafodd yr eilydd Taine Plumtree hefyd ei hel i’r gell cosb, ar ôl tacl uchel ar Henry Pollock wrth iddo dirio am gais i Loegr. 

Felly, cais cosb i gynyddu mantais Lloegr i 43-7, gyda Chymru unwaith eto, i lawr i 13 dyn.

Roedd y tîm cartref yn wastraffus yng nghyfnod olaf y gêm, gan fethu â manteisio ar sawl cyfle i ymestyn eu mantais ymhellach.

Ond fe lwyddon nhw i gael y gair olaf, gyda chais gan Tommy Freeman yn y funud olaf, sef seithfed Lloegr. 

Methodd Ford y cyfle i gyrraedd yr hanner cant gyda'r trosiad, ond heb os, roedd hon dal yn chwalfa yn Llundain gyda'r sgôr ar y chwiban olaf yn 48-7.

Fe fydd Cymru yn gobeithio am berfformiad lawer iawn gwell wrth iddyn nhw groesawu Ffrainc i Gaerdydd yn eu hail gêm o’r Bencampwriaeth ddydd Sul nesaf (15.10).

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.