Pêl-droediwr ifanc yn diolch 'am y gefnogaeth' wedi ansicrwydd a fydd yn gallu cynrychioli Cymru

Pêl-droediwr ifanc yn diolch 'am y gefnogaeth' wedi ansicrwydd a fydd yn gallu cynrychioli Cymru

Mae pêl-droediwr ifanc o Gymru wedi diolch i bawb "am eu cefnogaeth" ar ôl ansicrwydd a fydd yn gallu chwarae dros ei wlad.

Mae'n bosib na fydd Enzo Romano yn gallu chwarae dros Gymru wedi i'w gais am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei wrthod, er ei fod wedi ei eni yng Nghaerdydd yn 2009.

Ddydd Mercher fe wnaeth Newyddion S4C dorri'r newyddion fod y Swyddfa Gartref wedi gwrthod ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig am yr eildro.

Cadarnhaodd y Swyddfa Gartref fod yr ail gais wedi ei wrthod, ond pan gysylltodd Newyddion S4C gyda nhw eto fe ddywedodd y llefarydd eu bod wedi "cytuno i ail agor yr achos er mwyn ystyried a oes tystiolaeth newydd gan y teulu i'w chyflwyno."

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Enzo, sydd yn 16 oed fod y negeseuon o gefnogaeth dros y dyddiau diwethaf yn gwneud iddo deimlo'n "fwy Cymreig."

"Diolch i bawb am y gefnogaeth gyda'r cais am ddinasyddiaeth," meddai.

"Dwi mor ddiolchgar am y negeseuon a'r gefnogaeth. Mae'n gwneud i mi deimlo'n fwy Cymreig nag yr oeddwn o'r blaen.

"Mae hwn yn gyfnod anodd i ddod trwyddo. Jyst oherwydd fy mod i'n Gymro a dydyn nhw ddim yn cydnabod fy ninasyddiaeth.

"Mae mor annheg i gymryd y freuddwyd hon oddi wrtha i, y freuddwyd o wisgo crys Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

"Gobeithio bydd hyn yn cael ei sortio, ac mae'r gefnogaeth yn fy nghadw i'n fyw, yn byw yn y foment dros Gymru."

Image
Enzo ac Antonio Romano
Enzo ac Antonio ar ôl un o gemau Enzo i dîm dan 16 Cymru (Llun: Antonio Romano)

Cefndir yr achos

Ym mis Tachwedd 2024 fe wnaeth Newyddion S4C adrodd fod y Cymro ifanc yn wynebu posibilrwydd na fydd yn cael chwarae dros ei wlad eto wedi i'w gais cyntaf am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei wrthod.

Gan fod Enzo nawr yn 16 oed, mae angen pasbort Prydeinig neu ddinasyddiaeth Brydeinig arno er mwyn chwarae dros Gymru.

Yn achos Enzo, Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 yw'r gyfraith berthnasol, gan fod Enzo wedi cael ei eni yn y DU a gadael y wlad cyn Brexit.

Pan oedd yn wyth oed arwyddodd i Barcelona a symudodd ei deulu i Sbaen lle maen nhw'n parhau i fyw.

Yn ôl y Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig "mae unigolion sy’n cael eu geni yn y DU yn ddinesydd Prydeinig yn awtomatig o'r cyfnod pryd gafodd ei eni, yn yr achos lle mae un o’i rieni yn Brydeinig neu wedi ymgartrefu yma."

Symudodd Antonio i Gaerdydd ym mis Medi 2006 a'i wraig, Awilda yn 2007.

Image
Ystafell wely Enzo yn Barcelona
Ystafell wely Enzo yn Barcelona (Llun: Antonio Romano)

Roedd Antonio wedi byw a gweithio yng Nghymru am gyfnod o 10 mlynedd. Roedd felly yn credu fod ganddo statws preswylydd parhaol (permanent residence).

Ond mae penderfyniad y Swyddfa Gartref yn nodi nad oes gan Antonio statws preswylydd parhaol gan nad oedd yn "cyrraedd y trothwy ar gyfer person cyflogedig".

Yn ôl y Swyddfa Gartref, ennill cyflog o £7,500 y flwyddyn cyn treth am gyfnod o bum mlynedd yn olynol yw'r trothwy ar gyfer "person cyflogedig" ar y pryd, ac nid oedd Antonio wedi cyrraedd y trothwy hwn.

Mae gan Lywodraeth y DU ddogfen sydd yn gosod canllawiau ar gyfer cyflwyno cais dinasyddiaeth Brydeinig ar gyfer plentyn.

Nid yw'r canllawiau hynny yn nodi bod angen i berson ennill isafswm o gyflog er mwyn cael eu hystyried fel "person cyflogedig."

Mae Antonio yn credu ei fod wedi ei gamarwain gan ei fod yn dweud nad oedd y wybodaeth berthnasol yn y canllawiau.

"Os wyt ti'n mynd i dudalen y Swyddfa Gartref a gwirio'r holl ofynion, mae Enzo yn gymwys ar gyfer dinasyddiaeth," meddai.

"Mae'r cais yn costio dros £2,000 a does dim ad-daliad os chi'n cael eich gwrthod. Felly chi'n edrych ar y gofynion a gweld bod chi'n gymwys, wedyn gwneud cais.

"Chi'n anfon yr holl ddogfennau ar gyfer hynny, ac yna mae'n cael ei wrthod oherwydd cyfraith arall, sydd heb ei chynnwys ar y wefan. Dyw e ddim yn deg."

Ymateb y Swyddfa Gartref

Yn ôl y Swyddfa Gartref, does dim modd iddyn nhw ymateb i sylwadau Antonio Romano, am fod yr achos yn dal i fod yn weithredol wedi iddyn nhw ei ail agor.

Pan gysylltodd Newyddion S4C ag Antonio Romano i nodi sylwadau'r Swyddfa Gartref am ail agor yr achos nos Fawrth, dywedodd fod hynny yn ei wneud yn hapus iawn. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod yn gofyn am "wybodaeth bellach am gyfnod Antonio Romano yn y DU rhwng 2011/2012.

"Os ydy Mr Romano yn gallu cyflwyno tystiolaeth bellach o'i gyfnod yn y DU rhwng Ebrill 2011 ac Ebrill 2012, yn ogystal â rhestr o unrhyw absenoldebau o'r wlad yn ystod y flwyddyn hon ac unrhyw dystiolaeth ei fod yn derbyn cyflogaeth mewn swydd arall, byddwn yn gallu cwblhau'r asesiad.

"Fel arall, gallwn hefyd gwblhau asesiad pum mlynedd llawn ar gyfer Ms Matos Silva, mam Enzo. Nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd ei bod hi'n arfer hawliau cytundeb yn y DU fel gweithiwr, fel y mae'r teulu yn honni."

Image
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Yn ôl rheolau cymhwyster (eligibility) FIFA, mae angen i chwaraewr fod yn ddinesydd Prydeinig er mwyn gallu cynrychioli un o dimau'r DU.

Hyd yma mae Enzo wedi gallu chwarae i dimau ieuenctid Cymru gan fod ganddo dystysgrif geni yn profi ei fod wedi ei eni yng Nghaerdydd.

Ond o 16 oed ymlaen mae timau ieuenctid Cymru yn dechrau chwarae gemau rhagbrofol yr Euros a Chwpan y Byd, sydd yn golygu teithio dramor.

Nid oes gan Enzo basbort Prydeinig sydd yn golygu na fydd yn gallu cynrychioli Cymru.

Ar hyn o bryd mae Enzo yn chwarae i Villasar de Dalt yn y Liga Elit yn Sbaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.