Dyn wedi marw ar ôl 'digwyddiad difrifol' ym Mhrifysgol Caerdydd

07/02/2026
Translational Research Hub facility

Mae dyn wedi marw ar ôl 'digwyddiad difrifol' ym Mhrifysgol Caerdydd brynhawn Gwener.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol y Maendy yn y brifddinas tua 15.45 ddydd Gwener yn dilyn adroddiad bod dyn wedi disgyn o bumed llawr adeilad y brifysgol.

Roedd y gwasanaethau brys hefyd wedi cael eu galw i'r lleoliad, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu'r De: "Ar hyn o bryd nid oes unrhyw amgylchiadau amheus ac mae perthnasau agosaf y dyn a'r crwner wedi cael gwybod. 

"Nid yw corff y dyn wedi'i adnabod yn ffurfiol eto."

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd gadarnhau bod "digwyddiad difrifol" yn ymwneud ag aelod o staff.

"Gallwn gadarnhau bod digwyddiad difrifol wedi digwydd yn ymwneud ag aelod o staff academaidd y brifysgol ddydd Gwener," meddai llefarydd.

"Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol, ac rydym yn parhau i gynorthwyo’r heddlu, ac eraill, gyda’u hymchwiliadau parhaus.

"Ar hyn o bryd, mae’n bwysig peidio â dyfalu am y digwyddiad na’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig ag ef."

Mae'r brifysgol yn annog staff neu fyfyrwyr sy’n bryderus ac sydd wedi cael eu heffeithio i ddefnyddio eu gwasanaethau cymorth.

"Gan fod hon yn parhau i fod yn sefyllfa sy’n datblygu, byddai’n amhriodol cynnig sylwadau pellach," ychwanegodd.

"Byddwn yn rhannu diweddariadau pellach gyda staff cyn gynted ag y gallwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.