Sir Benfro: Disgybl yn ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio athrawes
Sir Benfro: Disgybl yn ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio athrawes
Mae disgybl 15 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio athrawes mewn ysgol yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.
Clywodd Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn fod y bachgen, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi ymosod ar athrawes o'r enw Vicky Williams gyda chyllell gegin ar ôl gofyn am gymorth gyda gwaith yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau brynhawn Iau.
Fe wnaeth y disgybl siarad i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad yn unig.
Cafodd ei gyhuddo o geisio llofruddio, achosi niwed corfforol difrifol a bod â llafn yn ei feddiant ar safle addysgol.
Mae honiad ei fod wedi ymosod ar athrawes gyda chyllell gegin tra roedd hi'n mynd trwy ei waith gydag ef mewn ystafell ddosbarth toc wedi 15.00 ddydd Iau.
Clywodd y llys fod yr athrawes wedi dioddef anafiadau i'w phen, ei bys a'i chefn a'i bod wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Bydd y bachgen yn cael ei gadw yn y ddalfa dros y penwythnos a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.
Yn gynharach ddydd Sadwrn, dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Matthew Briggs bod yr heddlu yn parhau i gefnogi'r athrawes.
"Yn dilyn ymholiadau manwl gan swyddogion arbenigol, mae anafiadau a aseswyd yn wreiddiol a’u disgrifio fel anafiadau nad ydynt o ganlyniad i drywanu bellach wedi’u cadarnhau fel anafiadau trywanu," meddai.
"Roedd datganiad yng nghyfnod cynnar yr ymchwiliad yn seiliedig ar wybodaeth ragarweiniol a oedd ar gael ar y pryd."
Dywedodd y bydd "presenoldeb uwch nag arfer" gan yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf "i roi sicrwydd" i drigolion.
"Bydd swyddogion yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd lleol i gynnig cefnogaeth dros yr wythnos nesaf," ychwanegodd.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am 15.20 ddydd Iau yn dilyn adroddiad bod disgybl wedi ymosod ar athrawes.
Yn dilyn y digwyddiad cafodd yr athrawes ei chludo i'r ysbyty i gael triniaeth am ei hanafiadau, gan gael ei rhyddhau yn ddiweddarach.
Cafodd yr ysgol ei chau ddydd Gwener a dywedodd yr heddlu fod yr holl ddisgyblion wedi "dychwelyd adref heb niwed".
'Dim lle i drais'
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru "nad oes lle i drais o unrhyw fath yn ein hysgolion".
Fe aeth y Farwnes Eluned Morgan i'r ysgol yr wythnos diwethaf a dywedodd mewn datganiad nos Iau ar y cyfryngau cymdeithasol: "Rwy'n bryderus iawn am y digwyddiad yn yr ysgol yn Aberdaugleddau. Ar ôl ymweld â'r ysgol yr wythnos diwethaf, mae'r newyddion hyn yn arbennig o syfrdanol.
"Mae fy meddyliau gyda'r athro sydd wedi ei anafu, eu teulu a chymuned yr ysgol gyfan yn ystod yr amser anodd hwn.
"Hoffwn roi teyrnged i’r gwasanaethau brys a staff yr ysgol am eu hymateb cyflym a phroffesiynol wrth sicrhau diogelwch disgyblion a staff.
"Er bod hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad heddlu gweithredol y mae’n rhaid caniatáu iddo fynd ymlaen heb ymyrraeth, hoffwn fod yn ddiamwys… nid oes lle i drais o unrhyw fath yn ein hysgolion."
Ychwanegodd: "Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid i gefnogi pawb yr effeithir arnynt ac i sicrhau bod ein hysgolion yn parhau i fod yn amgylcheddau diogel ar gyfer dysgu a gofal."
Dywedodd AS Canolbarth a De Sir Benfro, Henry Tufnell, fod gan Aberdaugleddau "gymuned glos iawn".
"Mae’n gymuned glos iawn yn Sir Benfro, mae pawb yn adnabod pawb arall… yn enwedig yn Aberdaugleddau, mae’n gymuned agos iawn, a dyna pam mae rhywbeth fel hyn mor ofidus.
"Mae’r holl siarad yn ddiweddar wedi bod am y gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol a’r ffonau mewn ysgolion… a phwysigrwydd cael plant i ganolbwyntio yn eu hystafelloedd dosbarth.
"Y trais mewn ysgolion, fel arfer mae ar un ochr i’r Iwerydd a dyna pam ei bod hi mor ofidus gweld y math hwn o drais… yn enwedig mewn cymuned leol fel Aberdaugleddau, sydd mor glos a chlyd.
"Fel arfer rydych chi’n darllen am yr adroddiadau hyn yn, wyddoch chi, yn yr Unol Daleithiau – dydych chi ddim yn clywed amdano yn y DU cymaint."
Ychwanegodd: "Mae’n amlwg yn peri gofid mawr ac mae fy meddyliau gyda’r athro a hefyd y disgyblion sydd wedi gorfod gweld digwyddiad mor drawmatig."
Fe wnaeth Neil Butler, swyddog cenedlaethol NASUWT yng Nghymru, ddisgrifio'r digwyddiad fel un "dychrynllyd".
Dywedodd mewn datganiad: "Mae athrawon yn cofrestru i ddod yn stiwardiaid y genhedlaeth nesaf, ac i rannu eu llawenydd a’u hangerdd dros addysg.
"Rhaid i ni gofio, fel pawb arall, fod ganddynt hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith. Rydym yn dymuno adferiad llwyr a chyflym i’r athro a anafwyd.
"Ond efallai na fydd mor syml â hynny. Wrth i drais mewn ysgolion gynyddu, bydd angen mwy na gobeithion a gweddïau ar athrawon."
