Newyddion S4C

Gêm gyfartal i Wrecsam yn erbyn Notts County

30/08/2021

Gêm gyfartal i Wrecsam yn erbyn Notts County

Mae Wrecsam wedi gorffen eu gêm gyntaf o'r tymor yn chwarae gartref yn gyfartal yn erbyn Notts County.

Gôl yr un oedd hi i'r ddau dîm ar y Cae Ras, wrth i'r crysau cochion chwarae o flaen torf yn Wrecsam am y tro cyntaf ers 18 mis.

Roedd gobeithion y byddai perchnogion newydd y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn gwneud ymddangosiad yn y gêm nos Lun, gyda Mr McElhenney yn ymarfer ei Gymraeg i'w ddilynwyr ar Twitter yn gynharach.

Ond, nid oedd sêr Hollywood i'w gweld ar y maes y tro hyn.

Notts County aeth ar y blaen ychydig funudau cyn hanner amser, gyda Kyle Wootton yn sgorio.

Yna, bron i 10 munud ar ôl ail gydio yn y chwarae, fe sgoriodd Wrecsam ail gôl y gêm, gyda Paul Mullin yn dod â'r sgôr yn gyfartal.

Fe fydd Wrecsam yn herio Southend Utd i ffwrdd ddydd Sadwrn, gyda'r gobeithion yn parhau yn uchel ar ddechau'r tymor i'r clwb.

Llun: Twitter/ @Wrexham_AFC/ Declan Lloyd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.