Lansio hybiau iechyd menywod i ddod â gofal 'yn agosach gartref'

Dr Helen Munroe

Mae hybiau iechyd menywod newydd wedi eu lansio'r wythnos hon er mwyn darparu gwasanaethau ar gyfer y menopos, atal cenhedlu a’r mislif. 

Y gobaith yw y byddai’r canolfannau yn “cael gwared a’r rhwystrau” y mae menywod yn eu hwynebu gyda’u hiechyd drwy "ddod â gofal yn agosach gartref". 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd gwasanaethau o’r fath ar gael drwy bob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth eleni. Fe fydd rhai yn gweithredu dros sawl safle, gydag eraill yn cael eu darparu ar-lein. 

A hithau wedi chwarae rhan blaenllaw gyda’r cynllun, dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod fod yr hybiau’n “cynrychioli newid ystyrlon” yn y ffordd mae gofal yn cael ei ddarparu yng Nghymru. 

"Yr hyn sy'n bwysicaf yw bod yr hybiau hyn wedi'u siapio gan brofiadau menywod a'u cynllunio o amgylch realiti eu bywydau,” meddai.

“Wrth i wasanaethau ehangu ar draws pob bwrdd iechyd, mae gennym gyfle gwirioneddol i wrando, ymateb ac adeiladu system sy'n trin iechyd menywod gyda'r flaenoriaeth a'r parch y mae'n ei haeddu."

Nod yr hybiau yw gwella mynediad menywod at wasanaethau gofal iechyd hanfodol drwy glinigau estynedig, sesiynau addysgol ac adnoddau ar-lein.

Ond dywedodd elusen Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) ei fod yn hollbwysig bod pobl yn gallu cael mynediad "hawdd" i’r hybiau fel eu bod yn cwrdd ag anghenion pob menyw. 

“Am lawer rhy hir, dyw’r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio [gan broblemau iechyd] ddim wedi gallu cael y gofal neu’r gwasanaeth oedd eu hangen arnynt mewn da bryd,” medd llefarydd.

“Mae’r cynllun yma’n man cychwyn cyffrous o ran ymrwymiad hirdymor byrddau iechyd ar gyfer iechyd menywod.” 

'Darparu gofal yn gynt'

Meddygfa Padarn yn Aberystwyth oedd ymhlith y cyntaf i gymryd rhan mewn cynllun peilot er mwyn darparu’r gwasanaethau newydd. 

Dywedodd Mr Alan Treharne, Gynaecolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyfarwyddwr Clinigol Grŵp Meddygaeth Gymunedol ac Integredig Ceredigion ei fod yn edrych ymlaen at ehangu’r gwasanaeth gyda saith hwb iechyd menywod pellach. 

“Mae'r hybiau hyn yn cyfuno syniadau newydd â gofal ymarferol, gan helpu menywod sy'n byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mor agos at adref â phosib.

"Mae hwn yn gyfle gwych i ni yn Hywel Dda barhau i dreialu ffyrdd newydd o ddarparu gofal, gyda chefnogaeth Comisiwn Bevan. Fel clinigwyr sy'n datblygu'r hybiau iechyd hyn, mae’n ein galluogi ni i ddarparu gofal yn gynt, yn fwy holistaidd ac i safonau uchel.” 

Mae disgwyl i wasanaethau tebyg fod ar gael i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro maes o law, ychwanegodd.

Fe aeth Sarah Murphy, Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am Iechyd Menywod i hwb peilot cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym Meddygfa Padarn ddydd Iau. 

Dywedodd y bydd y gwasanaeth yn ei “gwneud hi'n haws i fenywod yng Nghymru gael gofal pan fydd ei angen arnyn nhw, gan gynnig y gofal hwnnw'n nes at y cartref.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.