Dau ddyn wedi'u hanafu mewn 'ymosodiad difrifol' yng Nghaerdydd

Mae dau ddyn wedi eu hanafu mewn "ymosodiad difrifol" yng Nghaerdydd.
Mae'r dynion, y ddau yn 21 oed, yn derbyn triniaeth wedi'r digwyddiad yn ardal Kingsway am 1:00 fore Sul, ond maent mewn "cyflwr sefydlog", yn ôl WalesOnline.
Mae ardal eang o ganol dinas Caerdydd wedi ei gau gan yr heddlu ac fe fydd yn aros felly wrth i swyddogion gynnal eu hymchwiliadau.
Dyma'r ail drywaniad yn y brifddinas dros y penwythnos, ond nid yw Heddlu'r De yn credu bod cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.
Darllenwch y diweddaraf yma.
Llun: Google