‘Fiasco gwarthus’: ASau yn galw am ymchwiliad i dwyll posib gan gwmniau ECO4

Geoffrey Brown

Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi gofyn i’r Swyddfa Twyll Difrifol i ymchwilio i waith insiwleiddio sydd ddim o safon digonnol mewn cartrefi gan gwmnïau gwyrdd fel rhan o’r cynllun ECO4.

Mae adroddiad gan ASau sydd yn rhan o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) yn San Steffan, yn adrodd bod insiwleiddio diffygiol wedi ei osod mewn dros 30,000 o gartrefi yn y DU.

Mae hynny wedi gadael nifer o aelwydydd gyda biliau na allan nhw eu fforddio er mwyn adfer difrod i'w cartrefi, medden nhw.

Mae hyn wedi arwain at broblemau strwythurol, damp, llwydni a risgiau iechyd a diogelwch mewn rhai achosion.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad ei fod yn debygol fod twyll wedi chwarae "rhan sylweddol" mewn gwaith sydd ddim o'r safon digonnol, ac y gallai’r lefelau o waith diffygiol fod yn “sylweddol uwch” na’r hyn sydd yn hysbys.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r cynllun gael ei gyfeirio at y Swyddfa Twyll Difrifol er mwyn ymchwilio i ba raddau roedd twyll yn bresennol o fewn gweithredu’r cynllun, ac i dod ag unrhyw droseddwyr i gyfiawnder.

'Risgiau iechyd a diogelwch'

Fe wnaeth cadeirydd y pwyllgor, Syr Geoffrey Clifton-Brown, ddisgrifio’r methiannau systemaidd dan y cynllun ECO fel “y fiasco mwyaf gwarthus” yr oedd wedi dod ar ei draws mewn 12 mlynedd o wasanaethu ar y pwyllgor.

“Mae’n bosib fod miloedd o bobl nawr yn byw gyda risgiau iechyd a diogelwch yn eu cartrefi," meddai.

"Ac er gwaethaf beth mae’r Llywodraeth yn ei ddweud, nid oes gennym ddigon o sicrwydd nad ydyn nhw’n wynebu biliau anfforddiadwy er mwyn trwsio’r difrod.

“Mae’n rhaid i bawb yn y system nawr weithio ar fyrder er mwyn adfer y sefyllfa."

Fe ddechreuodd y cynllun ECO dan y Llywodraeth Geidwadol yn 2013, er mwyn gwella effeithlonrywdd egni mewn cartrefi a lleihau costau biliau.

Yn y Gyllideb ar ddiwedd y llynedd, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur gyhoeddi y byddai’r cynllun diweddaraf, ECO4, yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth.

Wrth ymateb i gyhoeddi yr adroddiad heddiw, dywedodd y Gweinidog dros Ddefnyddwyr Ynni, Martin McCluskey: “Fe wnaethon ni etifeddu system wedi torri gan y llywodraeth flaenorol.

“Nid oedd yn addas at y diben ac roedd ganddo sawl pwynt o fethiant. Rydym yn clirio’r llanast hwn."

'Heb wres'

Yng Nghymru, cyhoeddwyd ddechrau'r mis bob un cwmni ynni, Consumer Energy Solutions, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan arwain at golli 300 o swyddi.

Nid yw'r cwmni wedi ei enwi yn adroddiadau yr AS a does dim awgrym eu bod yn gysylltiedig ag unrhyw dwyll.

Wedi i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, fe wnaeth Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionydd, Liz Saville-Roberts, alw am ymchwiliad llawn, gan ddweud ei bod yn pryderu’n fawr am gwsmeriaid a chanddyn nhw waith heb ei gwblhau.

“Mae rhai wedi adrodd am osodiadau heb eu cwblhau, systemau’n methu yn fuan ar ôl eu gosod, a chwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd cael problemau wedi’u datrys," meddai.

"Mewn rhai achosion, mae pobl agored i niwed wedi’u gadael heb wres na dŵr poeth.”

Wythnos yma, fe wnaeth y Llywodraeth gyhoeddi cynllun newydd o'r enw Cartrefi Cynnes (Warm Homes), er mwyn “mynd i’r afael â thlodi tanwydd”.

Mae ASau wedi galw am well goruchwyliaeth o safon y gwaith fel rhan o’r cynllun newydd £15 biliwn.

Prif lun: Syr Geoffrey Clifton-Brown, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC)  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.