Pride Cymru yn symud eu gweithgareddau ar-lein am yr ail flwyddyn

Pride Cymru yn symud eu gweithgareddau ar-lein am yr ail flwyddyn
Yn ystod penwythnos Pride Cymru, mae fel arfer gorymdeithiau a gŵyl i ddathlu amrywiaeth y gymuned hoyw, ddeurywiol a thrawryweddol.
Roedd y strydoedd ychydig yn dawelach yn 2020 oherwydd y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus ar y pryd.
Erbyn hyn, mae’r cyfyngiadau wedi eu llacio dipyn gyda Chymru bellach yn Lefel Rhybudd Sero.
Ond, mae penwythnos Pride Cymru ar-lein unwaith eto eleni a hynny oherwydd bod angen gwneud penderfyniad heb wybod beth fyddai cyfyngiadau’r pandemig ar y pryd, yn ôl y trefnwyr.
Dywedodd Megan John o Pride Cymru: “O’dd rhaid i ni neud penderfyniad am be’ o’n i am ‘neud lot yn gynharach na daeth y penderfyniad mewn bod restrictions a stwff yn cael eu newid.
“Ers dydd Llun, ni ‘di bod yn rhoi fideos, discussions, lot o pethau cŵl lan trwy socials ni, so ma’ popeth dal ar gael ar kind of Facebook page ni a stwff a, timod, jyst neges ni yw ewch allan a cefnogi venues lleol chi”.
Ymhlith y dathliadau rhithiol mae perfformiad arbennig gan Opera Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Sian Meinir, sy’n aelod o Gorws Opera Cenedlaethol Cymru: “Fel cwmni o’ddan ni isho creu rhwbath o’dd yn mynd i gefnogi Pride Cymru a hefyd hyrwyddo y gred bod dim angen i neb i guddio yn y cysgodion, ond bod pawb yn gallu sefyll gyda balchder yn eu golueni nhw eu hunain a hefyd bo ni’n rhannu’r goleuni ‘na ymysg ein gilydd.
“’Dan ni’n andros o falch fel cwmni o gael lledaenu a hyrwyddo’r neges bo pawb yn werthfawr a bod gan bawb rhywbeth i’w gynnig”.
Bwriad digwyddiadau Pride Cymru yw dathlu amrywiaeth y gymuned LHDT+ yn y wlad, a boed hynny’n rhithiol neu beidio, yr un yw’r nod, a’r un yw’r croeso.