Newyddion S4C

Rhybudd am algâu yn Llyn Tegid

28/08/2021
Algae Llyn Tegid

Mae algâu gwyrddlas wedi cael eu darganfod yn Llyn Tegid yn Y Bala.

Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, gall yr algâu gwyrddlas sydd wedi eu darganfod achosi problemau iechyd.

Cyanobacteria yw'r enw gwyddonol arno a gall achosi symptomau yn cynnwys brech ar y croen, llid y llygad, cyfogi, dolur rhydd, twymyn, a phoen cyhyrau neu gymalau.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cynghori ymwelwyr i beidio cyffwrdd na mynd mewn i’r llyn os oes algâu neu lysnafedd ar wyneb y dŵr, neu os nad yw’r dŵr yn glir fel grisial.

Maent hefyd wedi rhybuddio bod yr algâu yn hynod beryglus i anifeiliaid, gan annog pobl i beidio gadael eu hanifeiliaid anwes yfed na mynd i mewn i’r dŵr.

Mae’r Parc yn gofyn i unrhyw un sy’n gweld algâu ar Lyn Tegid i gysylltu â’r staff drwy ffonio 01678 520 626.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.