Cynnal gwaith hanfodol i ymdopi â thwristiaid sy’n ymweld â Chymru

Cynnal gwaith hanfodol i ymdopi â thwristiaid sy’n ymweld â Chymru
Mae gwaith hanfodol wedi cael ei gwblhau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru wrth i ymwelwyr roi pwysau ar amgylchedd a gwasanaethau'r wlad.
Daw hyn wrth i luniau ddangos ciwiau anferth ar dop mannau poblogaidd fel Yr Wyddfa.
Mae Dŵr Cymru yn un o’r gwasanaethau sydd wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar ei systemau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu ymdopi yn ystod gŵyl y banc.
‘Misoedd yn paratoi’
Dywedodd Gwyn Thomas o Dŵr Cymru: “Mae’n grêt bod shwd gymaint o bobl yn dod i Gymru i dreulio ei wyliau haf yma, ond yn amlwg mae hwn yn cael effaith ar ein system dŵr yfed ni a’n system dŵr gwastraff.
“Ond yn Dŵr Cymru ni wedi bod yn treulio wythnosau os nad misoedd yn paratoi ar gyfer yr holl bobl sy’n ymweld â Chymru i sicrhau bod ein systemau yn gallu ymdopi.
“Felly'r gallu i gynhyrchu digon o ddŵr i bobl yfed a hefyd bod ‘da ni’r systemau yn lle i gymryd a thrin yr holl wastraff sy'n cael ei gynhyrchu hefyd.
“Ar ddiwedd y dydd mae’r gwasanaethau mae Dŵr Cymru yn ei ddarparu yn hanfodol ar gyfer iechyd cyhoeddus. Felly'r peth pwysicaf i ni neud yw paratoi, a bod ni yn ymdopi gyda’r holl bobl sy’n cael gwyliau haf yma yng Nghymru.”