Llofruddiaethau Clydach: Agor cwest i farwolaeth David Morris yn y carchar

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth David Morris, y dyn a gafwyd yn euog o lofruddiaethau Clydach, ar ôl iddo farw yn y carchar.
Fe gafodd Morris ei garcharu wedi iddo lofruddio pedwar aelod o'r un teulu yn eu cartref yn Sir Abertawe ym 1999.
Fe dreuliodd 22 mlynedd yn y carchar am lofruddio Mandy Power, ei dwy ferch - Katie, 10 oed, ac Emily, wyth oed - a'i mam, Doris Dawson, oedd yn 80 oed.
Roedd wedi derbyn dedfryd o leiafrif o 32 mlynedd o garchar am y llofruddiaethau, ac roedd yng ngharchar Long Lartin yn Sir Gaerwrangon pan ddisgynnodd yn farw ar 20 Awst, meddai WalesOnline.
Ni ddaeth archwiliad post mortem i unrhyw gasgliad pendant am achos ei farwolaeth, ac fe gafodd y cwest ei ohirio er mwyn i brofion ychwanegol gael eu cynnal.
Darllenwch y stori'n llawn yma.