Nifer o bobl wedi eu lladd mewn ymosodiad yn Kabul
Nifer o bobl wedi eu lladd mewn ymosodiad yn Kabul
Mae 12 o filwyr Americanaidd a nifer o ddinasyddion Afghanistan wedi eu lladd mewn dau ffrwydrad ger maes awyr Kabul.
Cadarnhaodd y Pentagon mewn cynhadledd i’r wasg nos Iau fod 15 yn fwy o filwyr UDA wedi eu hanafu yn yr ymosodiadau.
Dywedodd y Cadfridog McKenzie, Cadlywydd Awdurdod Canolog UDA, yn y gynhadledd fod y ddau fomiwr wedi eu hadnabod drwy asesiadau’r Pentagon fel ymladdwyr ISIS.
Digwyddodd un ffrwydrad yn Abbey Gate wrth ymyl maes awyr rhyngwladol Kabul, ac fe ddigwyddodd y ffrwydrad arall ger gwesty gyferbyn a’r maes awyr.
Daeth cadarnhad yn ystod y gynhadledd fod nifer o ddinasyddion Afghanistan hefyd wedi eu lladd a’u hanafu yn yr ymosodiad.
Nid yw’r union nifer o bobl a fu farw yn yr ymosodiad wedi ei gadarnhau ar hyn o bryd.
Daw hyn wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, gondemnio’r ymosodiad a chadarnhau y bydd yr ymdrech i symud pobl allan o Afghanistan yn parhau.
Dywedodd Alan Davies, cyn Uwch Gapten gyda’r Lluoedd Arfog, wrth Newyddion S4C: “Mae’r nod ar hyn o bryd yn glir. Ni yn treial gadael Afghanistan cyn dydd Mawrth nesa’.
“Mae’r ffaith bod rhywbeth wedi ffrwydro tu allan i’r maes awyr a wedi lladd milwyr ddim yn newid y nod ‘na, mae jyst yn dangos faint mor peryglus yw e i fod yn Afghanistan o’r cychwyn”.
Mae’r stori hon yn parhau i ddatblygu.