Newyddion S4C

Cyfyngiadau Covid wedi amlygu gwahaniaethau mewn arferion bwyta plant

Newyddion S4C 26/08/2021

Cyfyngiadau Covid wedi amlygu gwahaniaethau mewn arferion bwyta plant

Mae plant difreintiedig Cymru wedi bwyta llai o lysiau a ffrwythau, gwneud llai o ymarfer corff a bwyta mwy o fwyd cyflym na’u cyd-ddisgyblion, yn ôl ymchwiliad newydd.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal fel rhan o gynllun HAPPEN Prifysgol Abertawe gan ganolbwyntio ar yr effaith o golli strwythur ysgol ar iechyd plant Cymru.

Bu’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu o’r tŷ o fis Mawrth i fis Mehefin 2020, ac eto ar ddechrau 2021 oherwydd y pandemig.

Mae cynllun y brifysgol wedi nodi gwelliannau mewn sawl agwedd gan gynnwys gwell cwsg.

Ond fe ddaeth gwahaniaethau i’r amlwg rhwng plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyd-ddisgyblion mewn rhai agweddau gan gynnwys arferion bwyta a diet, gyda phlant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau.

Yn ogystal, dywedodd plant mwy difreintiedig eu bod nhw wedi gweld gostyngiad yn eu lefel o ymarfer corff.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys drwy gydol y pandemig.

'Trio bwydydd gwahanol'

Dros yr haf mae sesiynau Bwyd a Hwyl wedi eu cynnal gan awdurdodau lleol mewn degau o ysgolion ledled Cymru.

Nod y sesiynau yw hybu addysg am faeth, yn ogystal â darparu gweithgareddau a phrydau iach i blant oed cynradd.

Dywedodd Sophie Conway, sydd wedi bod ynghlwm â sesiynau Bwyd a Hwyl Ysgol Glan Morfa: "Mae'n bwysig oherwydd, deall bod mae'n ok i drio stwff newydd a trio bwydydd gwahanol, os dydyn nhw ddim yn lico fe.

"Ond i drio dangos iddyn nhw, mae'n ok i byta lot o ffrwythau a llysiau.

"A deall dealltwriaeth nhw o be' sy'n bwysig a bod ymarfer corff yn rhan o fe, bod ti'n neud hanner a hanner".

Ychwanegodd Meilir Thomas, Pennaeth Ysgol Glan Morfa: "'Da ni 'di gweld bod nifer o blant 'di bod adra fwy, dim falle wedi bod yn mynd tu allan achos y cyfyngiadau sy 'di bod.

"Mynd i'r parciau lleol oherwydd rhieni falle ofn oherwydd y pandemig.

"Felly 'da ni 'di gweld hefyd bod nifer o blant yn ista falle fwy yn y tŷ o flaen teledu ac o flaen cyfrifiaduron.

"Felly dyna pam bod cael rhaglen fel hyn dros wyliau'r ha' yn help mawr i ddatblygu'r ochr corfforol a chadw'n heini hefyd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.