Teithio rhyngwladol: Gweinidog yn galw am ofal wrth gyhoeddi newidiadau
Mae newidiadau wedi eu cyhoeddi i'r system oleuadau traffig llywodraethau'r Deyrnas Unedig ar gyfer teithiau rhyngwladol.
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi cadarnhau y bydd Cymru yn addasu'r system bresennol yn unol â gwledydd eraill y DU.
Ond, mae'r Gweinidog yn parhau i alw am ofal rhag teithio rhyngwladol heblaw am resymau hanfodol yr haf hwn.
Mewn datganiad ysgrifenedig brynhawn dydd Iau, dywedodd y Gweinidog fod risgiau iechyd cyhoeddus amlwg yn parhau drwy ail-agor teithio rhyngwladol.
Fel rhan o'r newidiadau, fe fydd Montenegro a Gwlad Tai yn cael eu hychwanegu i'r rhestr goch.
Bydd Denmarc, Lithuania, Y Ffindir, Y Swistir, Liechtenstein, yr Azores, a Canada yn symud i'r rhestr werdd.
Daw'r newidiadau i'r rheolau teithio i rym am 04:00 fore Llun, 30 Awst.