Beiciwr modur wedi dioddef 'anafiadau difrifol' yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanidloes
25/08/2021
Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad ar ôl i yrrwr ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys ddydd Mercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys beic modur Honda VT600 coch a Peugeot 3008 llwyd, ar gylchfan yr A470 yn Llanidloes am oddeutu 12:25.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe gafodd gyrrwr y beic modur ei gludo i'r ysbyty gydag Ambiwlans Awyr, a'i fod wedi dioddef "anafiadau difrifol".
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth, ac yn annog unrhyw un a all fod â gwybodaeth neu gynnwys fideo dashcam i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu rhif cyfeirnod DP-20210825-127.