Dau ddyn 18 oed o Gaerdydd wedi eu cyhuddo o droseddau terfysgol
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dau ddyn 18 oed o Gaerdydd o baratoi gweithredoedd terfysgol.
Mae'r ddau, Rhys Edwards a Talan Vincent, eisoes wedi ymddangos o flaen Ynadon Westminster, ac yn cael eu cadw yn y ddalfa tan eu hymddangosiad yn yr Old Bailey ddydd Gwener.
Daw’r cyhuddiadau wedi arestiadau a wnaed ar 20 a 21 Tachwedd, meddai Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru (CTPW).
Ymddangosodd Mr Edwards a Mr Vincent o flaen Llys Ynadon Westminster ddydd Gwener 21 Tachwedd a dydd Sadwrn 22 Tachwedd.
