‘Siom’ am ddiffyg triniaeth epilepsi yn y gorllewin

‘Siom’ am ddiffyg triniaeth epilepsi yn y gorllewin

Newyddion S4C

Mae pobl sy’n byw yng Ngorllewin Cymru yn profi diffyg triniaeth a chefnogaeth leol, yn ôl elusen flaenllaw.

Dywedodd Epilepsy Action Cymru bod rhai o’r cleifion ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda yn aros 18 mis am apwyntiad gyda niwrolegydd.

Mae’r elusen wedi dechrau ymgyrch i gael nyrs arbenigol yn yr ardal i ddarparu cyngor gwell.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud eu bod nhw wedi “adnabod yr angen i wella'r adnoddau nyrsio epilepsi sydd ar gael.”

'Gofid mawr'

Mae Elaine Edwards o Gaerfyrddin wedi byw gydag epilepsi am 20 mlynedd.

Dywedodd Ms Edwards wrth raglen Newyddion S4C: “Yn y blynyddoedd cynnar i fi, pan odd dim diagnosis ac wrth gwrs odd y cyflwr ddim dan reolaeth.

“Odd pob dydd yn gallu bod yn her a odd e'n creu gofid mawr, ddim yn deall beth odd yn digwydd yn yng nghorff i, beth odd yn digwydd yn ym mhen i.”

Bu rhaid i Ms Edwards deithio i Gaerdydd i weld arbenigwr gan fod dim gwasanaethau yn agosach ati ar y pryd.

Ychwanegodd: “Ar ôl cael diagnosis, odd rhaid i fi fynd i'r Heath yng Nghaerdydd oherwydd bod dim gwasanaeth arbenigol yn yr ardal. Ac odd e'n wych i weld arbenigwyr yn y maes. Ond odd e hefyd yn her.

“Odd e yn siom fowr ar y pryd, gorfod mynd i Gaerdydd. Ac mae e hefyd yn teimlo'n siom ar hyn o bryd, bod dim byd yn gallu cael ei neud yn lleol falle, oherwydd ma rhestrau aros mor hir."

Image
Epilepsy Action Cymru
Mae Epilepsy Action Cymru yn galw am nyrs arbenigol yn yr ardal.

'Rhywbeth mawr o'i le'

Ar hyn o bryd, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dau nyrs epilepsi arbenigol rhan amser. 

Ond mae elusen Epilepsy Action Cymru yn galw am ddarparu mwy o nyrsys arbenigol i'r gorllewin.

Dywedodd Jan Paterson, rheolwr yr elusen yng Nghymru: "Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar ei hôl hi hefo'i gwasanaeth nhw. Ydyn nhw ddim yn deall bod y bobl sy'n byw gydag epilepsi yn aros hyd at 18 mis i weld niwrolegydd?

"Ma' rhywbeth mawr o'i le yn mynd ymlaen ac mae'r bobl yn dioddef gydag epilepsi yn ei chanol hi a dydy o ddim yn deg o gwbl.

"Fase'n neud andros o wahaniaeth oherwydd fase'r nyrsys yma'n gallu bod yn y linc rhwng y niwrolegydd a'r cleifion.

"Os oes dim cefnogaeth yno iddyn nhw trwy'r nyrsys, wedyn maen nhw'n dibynnu ar elusennau fel ni i sefyll mewn i roi cymorth iddyn nhw. A dydyn ni heb gael ein hyfforddi mewn iechyd."

Image
Hywel Dda
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud eu bod wedi 'ymrwymo i adolygu yn barhaus ac i wella gwasanaethau'.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthod cais Newyddion S4C am gyfweliad.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Nyrsio'r bwrdd iechyd, Mandy Rayani: "Mae'r bwrdd iechyd yn cymryd camau i adolygu mynediad at wasanaethau niwrolegol a'r gallu o fewn yr adnoddau nyrsio epilepsi arbenigol i gwrdd ag anghenion y boblogaeth leol.

"Gan adnabod yr angen i wella'r adnoddau nyrsio epilepsi sydd ar gael, rydym wedi penodi nyrs epilepsi arbenigol ychwanegol i'n gwasanaethau paediatreg.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i adolygu yn barhaus ac i wella gwasanaethau i'r boblogaeth leol."

Fe wnaeth Newyddion S4C hefyd ofyn i'r bwrdd iechyd gadarnhau amseroedd aros ar gyfer cleifion epilepsi, ond ni chafodd y wybodaeth yma ei ddarparu.