Ethol Linda Evans yn arweinydd newydd ar Gyngor Sir Gâr
Mae'r Cynghorydd Linda Evans wedi'i phenodi yn arweinydd newydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin.
Hi hefyd yw'r cadeirydd ar Gabinet y Cyngor yn dilyn cyfarfod llawn o'r awdurdod ddydd Mercher.
Mae'r Cynghorydd Evans, sy'n aelod o grŵp Plaid Cymru, yn gynghorydd ar ward Llanfihangel-ar-arth ers 2008, ac mae'n aelod o'r Cabinet ers 2015.
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn heddiw, cafodd penodiad y Cynghorydd Evans ei gadarnhau a chyhoeddodd ei thîm Cabinet newydd sy'n cynnwys 10 aelod o'r cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans: “Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn Arweinydd y Cyngor ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cabinet a'r holl Aelodau ar draws y Siambr er budd trigolion Sir Gaerfyrddin.”
Cyhoeddodd arweinydd blaenorol y cyngor, Darren Price, ym mis Tachwedd ei fod yn ymddiswyddo o'r rôl am resymau personol.
Roedd y Cynghorydd Linda Evans, oedd yn ddirprwy arweinydd ar y cyngor, wedi cyflawni ei gyfrifoldebau nes bod swydd yr arweinydd wedi'i llenwi ddydd Mercher.
