Ymholiadau'r heddlu yn parhau wedi i Ysgol Bro Myrddin gau ar fyr rybudd

10/12/2025
Ysgol Bro Myrddin

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin wedi cael gadael ar ôl i'r ysgol gael gorchymyn gan yr heddlu brynhawn Mercher i gloi ei drysau ar fyr rybudd. 

Cafodd staff a disgyblion eu cadw ar y safle am gyfnod yn dilyn adroddiad am fygythiad i ddisgybl yn yr ysgol. 

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau ar y safle yn cynnal ymholiadau. 

Mae'r llu wedi cadarnhau nad oes unrhyw berson wedi cael eu harestio.

Cafodd neges ei rhannu i rieni a gwarcheidwaid yn gynharach yn dweud fod yr holl ddisgyblion yn ddiogel.

Ychwanegodd y llu y byddai rhieni a gwarcheidwaid yn derbyn diweddariadau pellach drwy ap yr ysgol.

Nid oes rhagor o fanylion am y digwyddiad ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.