Y Bala: Cyhoeddi enw dyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar

Llanfor, y Bala

Mae enw dyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar ger Y Bala yng Ngwynedd wedi ei ryddhau.

Dywed Swyddfa'r Crwner dros Ogledd Orllewin Cymru mai Darren Mark Hassall, 43 oed, oedd y dyn a fu farw ar ffordd yr A494 rhwng Llanfor a'r Bala am 23:40 nos Fercher diwethaf. 

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.

Mae dyn 38 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Fe gafodd y ffordd ei chau am sawl awr cyn iddi ail-agor fore Iau diwethaf.

Diolchodd yr heddlu i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth iddyn nhw ddelio gyda'r gwrthdrawiad.

Dywedodd y llu fod yr ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.