40 mis o garchar i ddyn o Fethesda am daro dyn gyda'i gar
Mae dyn 19 oed o Fethesda yng Ngwynedd wedi ei garcharu am 40 mis ar ôl iddo daro dyn gyda'i gar yn dilyn ffrae.
Roedd Thomas Baker wedi cyfaddef iddo achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol i David Thomas, ynghyd ag ymosod ar Michael Smith, gyrru'n beryglus a gyrru pan yr oedd wedi ei wahardd rhag gwneud hynny.
Cafodd fideo ei ddangos yn Llys y Goron Caernarfon o'r hyn oedd yn cael ei ddisgrifio fel achos o ddial ar y stryd fawr ym Methesda, yng nghanol y dydd ar 19 Awst eleni.
Dywedodd Emmalyne Downing ar ran yr erlyniad: "Does yr un o'r achwynwyr wedi darparu datganiad o gwyn."
Cafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad gan weithwraig mewn caffi cyfagos lle'r oedd Mr Thomas a Mr Smith wedi bod yn eistedd y tu allan iddo.
Ymosodiad
Dywedodd yr erlyniad fod car gwyn wedi gyrru atynt gyda Baker yn camu allan ohono cyn croesi'r ffordd. Fe gafodd Mr Smith ei daro deirgwaith yn ei ben, gyda dyn arall oedd yn y car yn ymuno yn y ffrwgwd.
Ychwanegodd Ms Downing fod Baker wedi dychwelyd i'r car yn y pen draw, ond roedd Mr Thomas wedi taflu blwch llwch ('ashtray') at ffenest flaen y car, gan achosi iddi dorri.
Trodd y car rownd cyn cael ei yrru i mewn i Mr Thomas wrth iddo gerdded ar hyd y pafin, gan ei daflu i'r awyr.
Roedd y dioddefwr wedi bod yn gloff yn dilyn llawdriniaeth flaenorol, ac fe ddioddefodd anaf i'w ffêr a'i ben yn yr ymosodiad yma.
Edifar
Dywedodd Amy Edwards ar ran yr amddiffyniad fod Baker yn edifar yr hyn yr oedd wedi ei wneud, ac nad oedd yn gwybod sut i ymdopi gyda'i ddicter.
Dywedodd y Barnwr Nicola Jones wrth Baker: “Fe wnaethoch chi ddringo’r palmant yn fwriadol a tharo Mr Thomas a’i daflu i’r awyr.
“Dioddefodd doriad mân yn ei ffêr mewn safle lle cafodd lawdriniaeth i ailosod ffêr yn ddiweddar.”
Roedd gan Baker euogfarnau blaenorol gan gynnwys un am yrru’n beryglus.
“Roedd hwn yn achwynydd bregus, oherwydd ei fod yn cerdded ar y palmant. Fe wnaethoch chi ddefnyddio’ch car fel arf.
"Ond rwy’n derbyn bod hwn yn weithred ysgogol,” meddai’r barnwr wrth Baker.
Bydd gwaharddiad o dair blynedd yn dechrau ar ôl i Baker gael ei ryddhau o’r carchar ac fe fydd yn rhaid iddo basio prawf gyrru estynedig.