Yr awdures boblogaidd Sophie Kinsella wedi marw'n 55 oed
Mae'r awdures boblogaidd Sophie Kinsella wedi marw yn 55 oed, ar ôl cael diagnosis o fath ffyrnig o ganser ar ei hymennydd.
Roedd hi'n adnabyddus am ei chyfres o lyfrau Shopaholic.
Dywedodd ei theulu ei bod wedi "marw'n heddychlon, gyda'i dyddiau olaf yn llawn o'i hoff bethau: teulu a cherddoriaeth a chynhesrwydd Nadolig a llawenydd".
Cyhoeddodd Madeleine Sophie Wickham, oedd yn defnyddio'r enw llenyddol Sophie Kinsella, ym mis Ebrill y llynedd ei bod wedi cael diagnosis o glioblastoma, math ymosodol o ganser yr ymennydd, yn 2022.
Ychwanegodd y datganiad ar Instagram gan ei theulu: "Allwn ni ddim dychmygu sut beth fydd bywyd heb ei llewyrch a'i chariad at fywyd.
“Er gwaethaf ei salwch, a ddioddefodd gyda dewrder, roedd Sophie yn ystyried ei hun yn wirioneddol ffodus – i gael teulu a ffrindiau mor wych, ac i fod wedi cael llwyddiant rhyfeddol yn ei gyrfa ysgrifennu.
“Ni chymerodd ddim yn ganiataol ac roedd yn ddiolchgar am byth am y cariad a dderbyniodd.
"Bydd colled fawr ar ei hôl, ac mae'n calonnau’n torri.”
Tra’n gweithio fel newyddiadurwraig ariannol, ysgrifennodd ei llyfr cyntaf, The Tennis Party yn 24 oed, gan ddefnyddio ei henw iawn ar y pryd.
Addaswyd y ddau waith cyntaf yn ei chyfres o wyth llyfr Shopaholic, The Secret Dreamworld Of A Shopaholic a Shopaholic Abroad, i'r ffilm Confessions Of A Shopaholic yn 2009, gyda Isla Fisher yn chwarae'r brif ran.
Dywedodd Araminta Whitley a Marina de Pass, ei hasiantau o The Soho Agency, ei bod hi'n "awdur a ffrind unwaith mewn oes" a disgrifiodd weithio gyda hi fel "braint ein bywydau".
Llun: PA
