Gobaith am agor canolfan ar gyfer clybiau chwaraeon Cymraeg Caerdydd

Newyddion S4C

Gobaith am agor canolfan ar gyfer clybiau chwaraeon Cymraeg Caerdydd

Am y tro cyntaf mewn hanner can mlynedd fe allai canolfan gael ei hagor ar gyfer clybiau chwaraeon Cymraeg Caerdydd - gyda'r safle hwnnw hefyd yn gartref ar gyfer canolfan gymdeithasol i'r Gymraeg.

Mae arweinwyr cynllun Canolfan Canna eisoes wedi gofyn i Gyngor Caerdydd i drosglwyddo'r ystafelloedd newid ym Mhontcanna i'w gofal - gyda'r Cyngor yn dweud eu bod yn ystyried cynnig i osod y 'stafelloedd newid ar les.

Fe fydd Clwb Pêl-droed Cymric - a Chlwb Rygbi Cymry Caerdydd, yn cydweithio ar y cynllun ac yn dweud eu bod yn trafod â nifer o fudiadau eraill, gan gynnwys yr Urdd a Menter Caerdydd.

Cadeirydd Cymric ydy Hywel Price.

Image
Hywel Price - Cymric
Hywel Price, Cadeirydd Clwb Cymric

“Mae’n gyffrous iawn oherwydd o’r diwedd ar ôl hanner can mlynedd o aros am gartref i glwb Cymric a Chlwb Rygbi Cymry Caerdydd mae na gyfle fan hyn i ni gael canolfan o’r diwedd yng Nghaerdydd lle dan ni chwarae’n hanesyddol ar y caeau yma," meddai.

"Cyfle i’r ddau dîm, y ddau glwb gan gynnwys yr holl dimau merched, timau ieuenctid, timau pêl rwyd, hoci, bod na ganolfan i’r holl gampau yma yng Nghaerdydd mewn ardal gwbwl ganolog i’r ddinas. Ni 'di bod yn aros hanner can mlynedd am y cyfle 'ma.”

Mae gweithgor Clwb Canna eisoes wedi cael ei sefydlu i roi'r cynllun ar waith, ac un o'r aelodau ydy Daniel Tiplady.

“Mae Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a chlwb Cymric wedi dod at ei gilydd i drio creu cartre i ni," meddai. 

Image
Tiplady
Daniel Tiplady, aelod o weithgor Clwb Canna

"Mae’r clybiau wedi bodoli ers y chwedegau hwyr ond byth wedi cael cartref parhaus, ac ers rhai blynyddoedd dan ni di bod yn gweithio i drio sicrhau rhywle i ni ddod at ein gilydd ac yn ddiweddar dan ni di ehangu y tu hwnt i ni fel clybiau chwaraeon i drio creu cartre i’r Gymraeg yn y ddinas. 

"Ac mae’n falch iawn gynnon ni ddeud bod yr awdurdod lleol, Cyngor Caerdydd wedi’n cefnogi ni’n ddiweddar ac wedi cytuno mewn egwyddor i drosglwyddo’r adeilad sy tu ôl i ni fel cartre i ni fel clybiau ond hefyd cael cartre i’r Gymraeg yn y ddinas."

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn ystyried cynnig i osod ystafelloedd newid Pontcanna ar les i glwb cymunedol.

Dywedodd y llefarydd fod "trefniadau o'r fath, lle y bydd clybiau'n cymryd cyfrifoldeb am reoli a chynnal safleoedd eisoes yn help i nifer o glybiau chwaraeon ar draws Caerdydd i ddefnyddio ffrydiau ariannol fyddai ddim ar gael i gynghorau lleol. 

"Mi all clybiau elwa o'r buddsoddiad hwnnw i wella'u cyfleusterau a gwella'r hyn maen nhw eisoes yn ei gynnig i'n cymunedau."

Mi fyddai angen noddwyr, a chyfranddalwyr mae'n debyg, a byddai angen i'r fenter fod yn hunangynhaliol yn y pen draw. 

Y bwriad ydy cael caffi a bar yn y Ganolfan a bod honno ar agor saith diwrnod yr wythnos, gyda chryn ddibynnu ar wirfoddolwyr ar y dechrau er fe allai swyddi parhaol ddod yn sgil hynny. 

Fe allai ail ran o'r cynllun gynnwys codi caeau chwarae newydd, ond fe fyddai hynny ymhellach i'r dyfodol.

Ag yntau'n chwarae i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd, ac yn brif swyddog un o'r mentrau iaith, mae Dafydd Duggan yn gefnogol i'r cynllun ar bob cyfri.

Image
Dafydd Duggan
Dafydd Duggan, un o chwaraewyr Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

"Mae'n gyffrous iawn cael canolfan Gymraeg yn y Brifddinas. 

"Dwi'n meddwl bod bwlch ar y foment yn hynny o beth. Ar y foment, (o) siarad dros y clwb rygbi dan ni'n cyfarfod yn nhafarn yr Halfway sydd yn lleoliad i ni ar y foment ond dydy o ddim yn ganolfan Gymraeg fel petai," meddai. 

"Ac o ran fy ngwaith i yn broffesiynol mae'n gyffrous gweld rhyw beth yn y 'nalgylch cartrefol i yn cael ei wasanaethu."

Y bwriad ydy cyflwyno cynllun gweithredu i'r Cyngor Sir ym mis Mai y flwyddyn nesaf, ac mae sawl cyfarfod wedi bod efo'r Cyngor yn barod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.