Lando Norris yn Bencampwr y Byd F1
Llun: Reuters
Mae Lando Norris o Loegr wedi ennill Pencampwriaeth y Byd Formula 1 ar ôl gorffen ar y podiwm yn ras ola’r tymor yn Abu Dhabi.
Er i Max Verstappen ennill y ras, roedd gorffen yn y trydydd safle yn ddigon i Norris sicrhau’r bencampwriaeth yn ei McLaren o ddau bwynt dros Verstappen.
Roedd McLaren eisoes wedi ennill pencampwriaeth y gwneuthurwyr (constructors).
Norris, sy’n 26 oed o Fryste, yw’r 11eg Prydeinwr i ennill y bencampwriaeth.
Dyma’r tro cyntaf i McLaren ennill y dwbl am deitl y gyrrwr a’r gwneuthurwyr ers 1998.