Cefnogwr pêl-droed wedi marw yn ystod gêm wedi argyfwng meddygol
Mae cefnogwr pêl-droed wedi marw yn ystod gêm wedi argyfwng meddygol brynhawn ddydd Sadwrn.
Cafodd y gêm rhwng Charlton Athletic a Portsmouth yn y Bencampwriaeth ei atal yn y 12fed munud tra bod y cefnogwr Charlton yn derbyn triniaeth.
Ond yn anffodus bu farw'r cefnogwr ac fe gafodd y gêm ei gohirio.
Mewn datganiad dywedodd Charlton Athletic eu bod "wedi'u dinistrio" gan y newyddion ac wedi diolch i staff a'r gwasanaethau brys am eu hymdrechion.
"Mae'r clwb yn ddiolchgar iawn i'r cefnogwyr ac i chwaraewyr a staff Portsmouth am eu hamynedd a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trasig hwn.
"Mae pawb yn y clwb yn danfon eu cydymdeimladau mwyaf i deulu a ffrindiau'r cefnogwr yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Ychwanegodd capten Charlton, Greg Docherty: "Newyddion hynod ddinistriol... mae meddyliau'r holl chwaraewyr gyda theulu a ffrindiau'r cefnogwr yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Roedd y sgôr yn 0-0 pan gafodd yr ornest ei gohirio. Bydd manylion ar gyfer ail-drefnu'r gêm yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Llun: Charlton Athletic yn erbyn West Bromwich Albion ar 4 Tachwedd 2025