Rhybudd melyn am law trwm i rannau helaeth o dde Cymru ddechrau’r wythnos
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn i dde Cymru ar gyfer nos Lun.
Mae’r rhybudd yn dod i rym am 18:00 ddydd Llun hyd at 18:00 ddydd Mawrth ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld glaw trwm ar draws y rhan helaeth o dde Cymru.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai hanner mis o law gwympo gyda rhai mannau yn gweld rhwng 20-40mm o law a bod siawns o lifogydd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd: “Mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r union fanylion, ond mae disgwyl i ardaloedd o law trwm ar draws de Cymru.
Ychwanegodd y Swydda Dywydd y gallai 60-80mm o law gwympo ar dir uchel yn ne Cymru gyda rhwng 80-100mm yn bosib ar fryniau agored.
Mae’r rhybudd tywydd yn berthnasol yn y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Sir Benfro
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Sir Gâr
- Sir Fynwy
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen