Abertawe: Arestio dau berson ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol
Llun: Google
Mae dau berson wedi cael eu harestio yn Abertawe ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad yn ardal Hafod y ddinas fore Sadwrn.
Mewn datganiad dywedodd y llu: "Mae swyddogion yn bresennol wedi digwyddiad yn ardal Siopau Brynmelin yn Hafod, Abertawe fore Sadwrn.
"Mae dau berson - menyw 28 oed a dyn 26 oed, y ddau o Abertawe - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol."
Ychwanegodd y llu bod presenoldeb swyddogion yn parhau yn yr ardal.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.