Arestio pedwar yn dilyn ymosodiad ar gas arddangos Tlysau’r Goron
Arestio pedwar yn dilyn ymosodiad ar gas arddangos Tlysau’r Goron
Mae pedwar protestiwr wedi cael eu harestio ar ôl i fwyd gael ei daflu at gas arddangos yn cynnwys Tlysau’r Goron yn Nhŵr Llundain.
Dywedodd Take Back Power, sy’n disgrifio’i hun fel grŵp gwrthsafiad sifil di-drais, mai nhw oedd y tu ôl i’r weithred.
Yn ôl adroddiadau cafodd cwstard a chrymbl afal eu taflu at y cas, a oedd yn cynnwys y tlysau.
Dywedodd Heddlu Llundain: “Mae pedwar protestiwr wedi cael eu harestio yn dilyn difrod troseddol yn Nhŵr Llundain.
“Cafodd yr heddlu eu galw am tua 09:48 ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr i Dŵr Llundain yn dilyn adroddiadau am ddifrod troseddol i gas arddangos, yn cynnwys Coron y Wladwriaeth.
“Gweithiodd swyddogion yn agos gyda Heddlu Dinas Llundain a swyddogion diogelwch ac mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol. Maent wedi’u cymryd i’r ddalfa.”
Mae Tŵr Llundain wedi’i gau i’r cyhoedd tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.
Llun: PA