Wcráin ac America yn galw ar Rwsia i ddangos 'ymrwymiad difrifol' at heddwch
Mae Wcráin ac America wedi galw ar Rwsia i ddangos "ymrwymiad difrifol" tuag at heddwch wrth i drafodaethau barhau ar ddod â'r rhyfel i ben.
Daw'r galw gan lysgennad arbennig yr UDA, Steve Witkoff ac ysgrifennydd cyngor amddiffyn Wcráin wedi dau ddiwrnod o "drafodaethau cadarnhaol" yn Florida.
Mewn datganiad dywedodd y ddau fod dod â'r rhyfel yn Wcráin i ben yn dibynnu ar "barodrwydd Rwsia" i gymryd camau tuag at leihau ymosodiad ar y wlad.
Mae'r trafodaethau, lle mae Jared Kushner, sy’n fab-yng-nghyfraith i Arlywydd America Donald Trump, hefyd yn bresennol, yn parhau am drydydd diwrnod ddydd Sadwrn.
"Byddai dod â'r rhyfel i ben a chymryd camau tuag at gadoediad yn angenrheidiol i atal unrhyw ymosodiadau pellach," meddai'r datganiad ar y cyd.
Fe wnaeth Mr Witkoff dreulio bron i bum awr gyda Vladimir Putin ym Moscow ddydd Mawrth, ond yn ôl y Kremlin, nid oedd “unrhyw gyfaddawd” yn dilyn y trafodaethau.
Ychwanegodd y Kremlin fod Putin yn barod i barhau i drafod gydag America, ond mae Wcráin a gwledydd eraill yn Ewrop wedi cwestiynu parodrwydd Putin i ddod â'r rhyfel i ben.
Dywedodd Arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky ei fod eisiau "cael gwybodaeth lawn am yr hyn y trafodwyd ym Moscow a pha esgusodion eraill y mae Putin wedi'u llunio i lusgo'r rhyfel ymlaen".
Credir bod Wcráin a Rwsia yn parhau i anghytuno dros ddau brif bwynt: dyfodol y tiriogaeth sydd wedi’i meddiannu gan luoedd Rwsia, a gwarantau diogelwch i Wcráin.
Mae Kyiv ac arweinwyr Ewropeaidd yn credu mai drwy sicrhau aelodaeth Wcráin o NATO y byddai’r ffordd fwyaf effeithiol o atal Rwsia rhag ymosod eto yn y dyfodol.
Mae Rwsia yn gwrthwynebu’r cynnig yn chwyrn, gyda Trump hefyd yn awgrymu na fyddai’n ystyried caniatáu i Wcráin ymaelodi.
