Rhan o Borthladd Caergybi ar gau ar ôl 'digwyddiad angori'

Porthladd Caergybi

Mae rhan o Borthladd Caergybi ar gau ar ôl "digwyddiad angori".

Dywedodd Stena Line bod terfynell (terminal) 5 ar gau dros dro wedi'r digwyddiad ddydd Gwener.

Fe wnaeth y cwmni benderfynu cau'r derfynell fel "rhagofal" ac fe fydd y difrod yn cael ei asesu pan mae amodau tywydd yn caniatáu.

Mae terfynell 5 fel arfer yn cael ei ddefnyddio gan gychod Stena Line, gyda chychod Irish Ferries yn defnyddio terfynell 3.

Ar hyn o bryd mae'r ddau gwmni yn defnyddio'r un derfynell dros dro.

Mewn datganiad dywedodd Stena Line: "O ganlyniad i amodau tywydd ddydd Gwener, fe ddigwyddodd digwyddiad angori yn Nherfynell 5.

"Mae amodau tywydd presennol yn ein hatal rhag cynnal asesiad iawn o'r safle angori, ac felly rydym wedi cymryd mesurau rhagofal a chau Terfynell 5 i sicrhau diogelwch pawb.

"Bydd y derfynell ar gau tan fod y strwythur yn cael ei archwilio ac yn ddiogel i'w ddefnyddio eto.

Ychwanegodd y cwmni: "Bydd yr asesiad yn digwydd pan fydd amodau tywydd yn gwella.

"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra mae hyn yn achosi, ond iechyd a diogelwch ein gweithwyr a'n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth."

Ychwanegodd Stena Line bod y porthladd yn parhau i weithredu fel yr arfer a bod pob llong yn dal i deithio.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.