Rhybuddion am lifogydd ar draws Cymru yn dilyn glaw trwm dros nos

llifogydd

Mae nifer o rybuddion am lifogydd mewn grym mewn mannau o Gymru yn dilyn cyfnodau o law trwm dros nos ynghyd â llanw uchel.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod saith rhybudd o lifogydd mewn grym yn yr ardaloedd canlynol o arfordir de orllewin Cymru a Bae Ceredigion:

  • Y Borth
  • Aberaeron
  • Dinbych-y-pysgod
  • Niwgwl
  • Bae Caerfyrddin
  • Pentywyn
  • Cei Caerfyrddin
Image
Rhybyddion am lifogydd. Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
Rhybuddion am lifogydd. Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae 27 o rybuddion melyn "byddwch yn barod” mewn grym ar hyd arfordiroedd y de, de orllewin, Bae Ceredigion, gogledd orllewin a’r canolbarth.

Roedd gwasanaethat trenau rhwng Machynlleth ac Aberystwyth wedi eu canslo oherwydd llifogydd ac roedd Pont Cleddau wedi cau i gerbydau uchel am gyfnod oherwydd cyflymder y gwynt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.