Gwisg Will Ferrell o’r ffilm Elf yn gwerthu am £200,000 mewn ocsiwn

Gwisg o'r ffilm Elf

Mae gwisg Will Ferrell o'r ffilm Nadolig Elf wedi gwerthu am fwy na £200,000 mewn ocsiwn.

Rhyddhawyd y ffilm, am 'Buddy', dyn a fagwyd fel un o weithwyr bach Siôn Corn sy'n teithio i Efrog Newydd i ddod o hyd i'w dad, yn 2003, ac mae’n cael ei hystyried yn un o'r ffilmiau Nadolig gorau erioed.

Gwerthwyd y wisg Elf gwyrdd a melyn, gyda bwcl du a choler a chyffiau gwyn, am £239,400, gan gynnwys premiwm y prynwr, yn ystod diwrnod cyntaf ocsiwn cwmni Propstore.

Roedd yr arwerthiant hefyd yn cynnwys eitemau o ffilmiau gan gynnwys Superman (1978), Spider-Man 3 (2007) a Beetlejuice (1988).

Y lot uchaf oedd gwn EE-3 Boba Fett o'r ffilm Star Wars The Empire Strikes Back (1980), a werthwyd am £459,900.

Fe werthwyd yr het fedora a wisgwyd gan Harrison Ford yn Indiana Jones And The Temple Of Doom (1984) am £365,400.

Uchafbwynt arall oedd lightsaber a ddefnyddiwyd gan gymeriad Ewan McGregor, Obi-Wan Kenobi, yn Star Wars: Episode I – The Phantom Menace (1999) a werthwyd am £289,800. 

Roedd y lot yma’n cynnwys llythyr dilysrwydd wedi'i lofnodi gan y gwneuthurwr ffilmiau George Lucas.

Cafodd y bwrdd hofran a ddefnyddiwyd gan gymeriad Michael J Fox, Marty McFly, yn Back To The Future Part II (1989) a III (1990), ei werthu am £233,100.

Dywedodd sylfaenydd a phrif weithredwr Propstore, Stephen Lane: “Mae dyddiau agoriadol ein harwerthiannau byw bob amser yn llawn cystadleuaeth– ac yn sicr ni siomodd diwrnod cyntaf ein harwerthiant.

“Mae’r ocsiwn hwn yn dwyn ynghyd rai o’r creadigaethau mwyaf eiconig mewn ffilm, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae gweddill y digwyddiad yn datblygu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.