Cymuned Merthyr yn falch o lwyddiant Liam ar Love Island
Cymuned Merthyr yn falch o lwyddiant Liam ar Love Island
Cafodd Liam Reardon o Ferthyr Tudful, a Millie Court o Essex eu cyhoeddi'n enillwyr y gyfres deledu Love Island nos Lun.
Mae Newyddion S4C wedi casglu’r ymateb o Ferthyr Tudful.
Dywedodd un: “Mae’n ffantastig. Unrhyw fath o sylw ni'n gallu cael, unrhyw fath o newyddion positif i Ferthyr, mae’n ffantastig.
“Mae’r caredigrwydd, a’r fath o ddyn yw e rili wedi dangos, ‘ma fe’n typical cymeriad o Ferthyr rili…oni meddwl gall e ennill, a pan nath e, oni bron a chrio.”
Dywedodd un arall:
“Mae’n hwb grêt i’r dref, a roedd o wedi crybwyll y dafarn leol ar y teledu felly dwi’n meddwl bydd hynny yn hwb iddi.”
Ar ôl ennill, penderfynodd y pâr i rannu'r wobr ariannol o £50,000 rhyngddynt.
Dyma'r tro cyntaf i berson o Gymru ennill y gyfres ers Amber Davies yn 2017.