Newyddion S4C

Mark Drakeford: 'Cynlluniau ar waith i helpu pobl yn Afghanistan'

ITV Cymru 24/08/2021

Mark Drakeford: 'Cynlluniau ar waith i helpu pobl yn Afghanistan'

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn pwysleisio’i barodrwydd i helpu'r rheini sy’n dioddef yn Afghanistan i ail-gartrefu yma yng Nghymru.

“Wrth gwrs ni’n awyddus yma yng Nghymru i neud popeth allwn ni i helpu pobl sy’n dod mas o Afghanistan ar ôl weld beth sy’n digwydd yn y wlad ‘na," meddai. 

"Dwi’n falch i ddweud mai pob un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru nawr wedi cadarnhau maen nhw yn gallu helpu, ac yfory bydd cyfarfod ble mae llywodraeth yn tynnu pobl gyda’i gilydd."

Ychwanegodd: "Dwi’n mynd i fod yn cadeirio'r cyfarfod awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, y trydydd sector, ac yn y blaen,  i neud popeth allwn ni i helpu pobl i ddod i Gymru, i ail-setlo fan hyn ac i ail-greu bywydau nhw ar ôl popeth maen nhw wedi gweld a phopeth sydd wedi digwydd yn Afghanistan.”

Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru bellach wedi dechrau ar eu cynlluniau i ail-gartrefu pobl o Afghanistan yn eu siroedd, drwy gynnig rhywle iddynt fyw a chymorth gyrfa. 

Yn sgil y sefyllfa yn y wlad, fe gadarnhaodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd 20,000 o bobl wnaeth gyd-weithio gyda Phrydain, yn ogystal â phobl fregus fel menywod a phlant, yn cael lloches yn y wlad dros y blynyddoedd nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.