Ymosodiad Wrecsam: Tri o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio
Mae tri o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw yn dilyn digwyddiad yn Wrecsam.
Cafodd yr heddlu eu galw nos Lun yn dilyn adroddiadau o aflonyddu yn ardal Cristionydd ym Mhenycae, Wrecsam am tua 20:25.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod dyn 57 oed wedi marw yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
Mae tri o bobl leol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'r heddlu yn dweud bod yr achos yn un "ynysig" ac nad oes "bygythiad i'r gymuned ehangach".
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae Ditectif Arolygydd Mark Hughes yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â swyddogion ar 101 neu drwy'r wefan, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z124379, neud ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111."