Bale a Ramsey yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd
Mae rheolwr dros-dro Cymru, Robert Page wedi cyhoeddi enwau'r 27 chwaraewr fydd yn cynrychioli'r tîm pêl-droed yng ngemau cyntaf eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
Bydd y tîm cenedlaethol yn herio Belarws, Estonia, Y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Belg mewn cyfres o gemau rhwng mis Medi a Thachwedd, yn y gobaith o gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Carfan Cymru
Wayne Hennessey, Daniel Ward, Adam Davies, Chris Gunter, Ben Davies, Ethan Ampadu, Chris Mephan, Joe Rodon, Neco Wlliams, Tom lockyer, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies, Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Matthew Smith, Dylan Levitt, George Thomas, Rubin Colwill, Brennan Johnson, Gareth Bale, Daniel James, Kieffer Moore a Tyler Roberts.
Cyn y gemau rhagbrofol, bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir mewn gêm gyfeillgar yn Helsinki nos Fercher, 1 Medi.
Dyma fydd gêm gyntaf Cymru ers iddynt gyrraedd rownd yr 16 olaf ym mhencampwriaeth Euro 2020, gyda'r gic gyntaf am 19:00 yn y Stadiwm Olympaidd, Helsinki.
Fe gyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed yn gynharach fis Awst na fydd cefnogwyr yn cael teithio i wylio'r tîm cenedlaethol yn chwarae yn eu gemau i ffwrdd ym mis Medi oherwydd sefyllfa'r pandemig.
Fe fydd gêm gyntaf Cymru yn y rowndiau rhagbrofol yn erbyn Belarws yn cael ei gynnal yn Kazan, Rwsia ar 5 Medi, a hynny tu ôl i ddrysau caeedig.
Serch hynny, gyda Chymru bellach ar lefel rhybudd sero o ran cyfyngiadau Covid-19, fe fydd torf yn cael gwylio ail gêm Cymru yn eu hymgyrch yn erbyn Estonia.
Fe fydd y gêm hon yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 8 Medi, gyda'r gic gyntaf am 19:45.
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi dweud y bydd y sefyllfa ar dorfeydd yn cael ei adolygu ar gyfer gemau mis Hydref a Thachwedd.
Gemau Cymru yn eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd
Belarws v Cymru - Dydd Sul, 5 Medi | CG 14:00 | Stadiwm Central, Rwsia
Cymru v Estonia - Dydd Mercher, 8 Medi | CG 19:45 | Stadiwm Dinas Caerdydd
Y Weriniaeth Tsiec - Dydd Gwener, 8 Hydref | CG 19:45 | Stadiwm Sinobo, Prag
Estonia v Cymru - Dydd Llun, 11 Hydref | CG 19:45 | Arena A. Le Coq, Tallinn
Cymru v Bwlarws - Dydd Sadwrn, 13 Tachwedd | CG 19:45 | Stadiwm Dinas Caerdydd
Cymru v Gwlad Belg - Dydd Mawrth, 16 Tachwedd | CG 19:45 | Stadiwm Dinas Caerdydd
Fe fydd y gemau yn cael eu darlledu yn fyw ar S4C.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans