Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mawrth, 24 Awst.
Teulu'n brwydro i atal eu fferm rhag dod yn barc busnes
Mae teulu yn brwydro i achub fferm ym Mro Morgannwg, ar ôl cael gorchymyn i adael y fferm deuluol erbyn Gorffennaf 2022. Mae pedair cenhedlaeth o deulu Jenkins wedi bod yn ffermio Model Farm i’r dwyrain o faes awyr Caerdydd, ger Y Rhws, a hynny ers 1935. Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg, mae’r cais cynllunio wedi ei gymeradwyo “ar ôl ystyried yr holl ffactorau perthnasol yn llawn”.
Afghanistan: Arweinwyr y G7 i geisio cyfleu undod
Mae disgwyl i arweinwyr gwledydd y G7 geisio dangos undod ddydd Mawrth mewn cynhadledd arbennig i drafod y sefyllfa yn Afghanistan. Daw'r gynhadledd yn dilyn rhaniadau cyhoeddus dros y dyddiad i orffen symud pobl o'r wlad - 31 Awst. Caiff y trafodaethau eu cynnal yn sgil golygfeydd tyngedfennol yn Kabul, lle mae gwledydd gan gynnwys yr UDA a'r DU yn brysio i geisio symud pobl o'r wlad.
Cynnydd mewn ymwelwyr yn rhoi 'pwysau sylweddol' ar Yr Wyddfa
Mae niferoedd uchel o ymwelwyr yn rhoi pwysau sylweddol ar amgylchedd a bywyd gwyllt Yr Wyddfa, medd gwarchodwyr y mynydd. Mae disgwyl i fwy na 700,000 o bobl gerdded i gopa'r Wyddfa eleni - cynnydd o'r 500,000 o ymwelwyr yn 2018 a bron i ddwywaith yn fwy na'r niferoedd yn 2012.
Llifogydd Ewrop ‘bron i ddeg gwaith gwaeth’ oherwydd argyfwng hinsawdd
Roedd y glaw a fu’n gyfrifol am lifogydd dinistriol yn Ewrop fis diwethaf rhwng 1.2 a naw gwaith fwy tebygol o ddigwydd oherwydd yr argyfwng hinsawdd, yn ôl ymchwil newydd. Fe welodd ardaloedd yn yr Almaen, Gwlad Belg a’r Swistir lefelau o law na welwyd o’r blaen ym mis Gorffennaf, gan achosi o leiaf 220 o bobl i golli eu bywydau.
Cymro yn un o enillwyr Love Island 2021
Mae Cymro yn un o enillwyr Love Island 2021. Cafodd Liam Reardon o Ferthyr Tudful, a Millie Court o Essex eu cyhoeddi'n enillwyr y gyfres yn y ffeinal nos Lun. Ar ôl ennill, penderfynodd y pâr i rannu'r wobr ariannol o £50,000 rhyngddynt.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.